Cacen greigiau haenog, craciog a chrychlyd a ffurfiwyd dros 480 miliwn o flynyddoedd. Tirwedd wedi’i cherflunio gan rew ac wedyn ei thrawsnewid gan ddyn – yn dyst i enedigaeth y Chwyldro Diwydiannol. Dim ond ychydig o’n straeon yw’r rhain . . . . .
Mae’r Fforest Fawr yn ystod o ucheldir a gafodd ei gynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog pan gafodd ei sefydlu ym 1957. Mae’r ucheldiroedd hyn wrth galon y Geoparc er ei fod yn ymestyn y tu hwnt iddynt i gynnwys llawer o gefn gwlad o’u hamgylch.
Dechreuwch ddod i nabod y Geoparc drwy bori drwy’r tudalennau hyn:
- Dealltwriaeth - gwybodaeth am ddaeareg, bywyd gwyllt, archeoleg, chwedlau, a hanes yr ardal a llawer mwyyn rhoi gwybodaeth i chi am bob math o bynciau.
- Mwynhau - syniadau ar gyfer lleoedd i’w gweld a phethau i’w gwneud pan fyddwch yn ymweld â’r Geoparc.
- Gofalu - sut mae’r ardal yn cael ei diogelu a sut gallwch chi helpu.
- Addysg - ystafell ddosbarth awyr agored o’r radd flaenaf yw’r Geoparc.
- Beth sydd ymlaen - manylion am deithiau cerdded a sgyrsiau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod – gan gynnwys Gŵyl Flynyddol Geoparc y Fforest Fawr.
- Newyddion Geoparc y Fforest Fawr — cylchlythyr chwemisol ar gyfer yr ardal.
Ffotograffiaeth © BBNPA/Cymdeithas Ddaearegol Prydain/Nigel Forster/Philip Veale/Alan Bowring








