Detholiad o ganllawiau cyffredinol i gerrig a daeareg Geoparc y Fforest Fawr.
Cyhoeddwyd nifer o ganllawiau dros y blynyddoedd i gerrig a thirwedd yr ardal hon. Cafodd rhai eu hysgrifennu ar gyfer darllenwyr cyffredinol, mae rhai eraill yn cymryd bod y darllenydd yn meddu ar ryw lefel o wybodaeth.
Mae copïau o’r rhan fwyaf o’r rhain ar gael i’w prynu yng Nghanolfan y Sgydau ym Mhontneddfechan (canolfan wybodaeth Geoparc) ac yng nghanolfannau gwybodaeth eraill y Parc Cenedlaethol ac yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus. Er ei bod yn bosibl bod rhai eraill allan o brint erbyn hyn, yn aml maent ar gael mewn llyfrgelloedd ac yng nghasgliadau ysgolion a cholegau felly cânt eu cynnwys yma.
Geo-lwybrau
Mae cyfres o daflenni wedi’i hanelu at ymwelwyr arferol yn cael ei pharatoi er mwyn cyflwyno treftadaeth ddaearegol amrywiol y Geoparc. Dysgwch fwy…
Arolwg Daearegol Prydain
Astudiaethau Daearegol
Mae Arolwg Daearegol Prydain wedi llunio cyfres o ‘Astudiaethau Daearegol’ ac ‘esboniadau taflen’ er mwyn cyd-fynd â llawer o’r mapiau graddfa 1:50,000 mae’n eu cyhoeddi. Y rhai sydd ar gael ar gyfer ardal y Geoparc yw:
- Geology of the Llandovery District – esboniad byr o daflen y map daearegol 212 Llanymddyfri (cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009)
- Geology of the Brecon District – esboniad byr o daflen y map daearegol 213 ’Brecon’ (38tt, cyhoeddwyd yn 2005)
- Geology of the South Wales Coalfield, part V; the area around Merthyr Tydfil, 3ydd argraffiad. Astudiaeth o daflen Arolwg Daearegol Prydain 231 (52tt, argraffwyd ym 1988)
Er bod y map ar gael, nid oes astudiaeth fodern neu ‘esboniad taflen’ ar gael ar gyfer ardal Rhydaman (taflen 230) sy’n cynnwys rhan dde-orllewinol y Geoparc. Fodd bynnag, gellir cael copïau o astudiaeth 1907 yn uniongyrchol o Arolwg Daearegol Prydain.
Gellir prynu’r ‘esboniadau taflen’ byr a’r mapiau 50,000 o ardaloedd Aberhonddu a Llanymddyfri gan Arolwg Daearegol Prydain BGS mewn pecynnau am £18.00 – dilynwch y ddolen uchod i Arolwg Daearegol Prydain.
Cyfres Daeareg Ranbarthol Prydain
Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf y teitl Wales yn y gyfres hon gan Arolwg Daearegol Prydain yn 2007. Mae’n cymryd lle’r ddau ganllaw blaenorol i Ogledd a De Cymru. Mae’n rhoi sylfaen dda o ran gwybodaeth am ddaeareg y rhanbarth. (230tt gan gynnwys map daearegol creigwely graddfa 1:625,000 o Gymru)
Ffynonellau eraill
Mae ‘The Geology of South Wales’ yn ganllaw 247 o dudalennau i gerrig y rhanbarth sy’n cynnwys pennod yn rhoi manylion am dair taith o gwmpas blaenddyfroedd Afon Nedd ac Afon Tawe yn ogystal â chyflwyniad cyffredinol i ddaeareg de Cymru. Fe’i hysgrifennwyd a’i cyhoeddwyd yn 2008 gan Gareth George ac mae ar gael am £17.75 o ganolfannau’r Parc Cenedlaethol. ISBN: 978-0-9559371-0-1
Calchfaen ac Ogofâu
Cafodd llyfr clawr caled 254 tudalen ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt ym 1989 o’r enw ‘Limestones and Caves of Wales’. Mae’r golygydd, T D Ford, wedi ymrestru arbenigwyr i ddisgrifio daeareg a geomorffoleg ardaloedd Calchfaen Carbonifferaidd Cymru a chrynhoi cyflwr y wybodaeth am y prif systemau ogofâu, gan fynd ati i asesu esblygiad morffolegol y systemau a nodweddion y dirwedd sy’n gysylltiedig. Mae hefyd yn ymwneud â fflora, ffawna, archaeoleg a hydroleg ogofâu.
Dylech chi hefyd gadw llygad allan am lyfryn 32 tudalen a ysgrifennwyd gan Mike Simms ac a gyhoeddwyd ym 1998 gan y British Cave Research Association (BCRA) o’r enw ‘Caves & Karst of the Brecon Beacons National Park’ sy’n disgrifio tair taith gerdded yn y Geoparc sy’n canolbwyntio ar i) Carreg Cennen a’r Mynydd Du, ii) system ogofâu Dan yr Ogof a iii) ogofâu cymoedd Mellte a Nedd Fechan. (Rhif 7 yng nghyfres ‘Cave Studies’ BCRA) ISBN 0-900265-20-5
Gwibdeithiau Daearegol
Mae tri theitl sy’n werth cadw llygad allan amdanynt. Mae pob un yn cynnwys deunydd sy’n berthnasol i ran o’r Geoparc.
Mae ‘Geological Excursions in Powys, Central Wales’ (golygwyd gan N.H.Woodock ac M.G.Bassett 1993, 366tt: ISBN 0-7083-1217-9) yn rhestru 15 gwibdaith ar wahân o Fryniau Berwyn yn y gogledd i faes glo de Cymru yn y de. Mae penodau 14 a 15 yn cyfeirio at ‘Hen Dywodfaen Coch Bannau Brycheiniog i ardal y Mynydd Du’ ac am y ‘Calchfaen Carbonifferaidd Cnwd Gogleddol Maes Glo De Cymru’ – lleolir rhan helaeth ohono yn Geoparc y Fforest Fawr.
Mae ‘Geological Excursions in Dyfed, South West Wales’ (cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, golygwyd gan M.G.Bassett 1982, 327tt) yn rhestru 19 gwibdaith ar wahân o Sir Benfro i Aberystwyth ac i’r dwyrain i’r Geoparc. Mae Pennod 15 yn sôn am ‘Darnau Ordofigaidd a Silwraidd yn ardal Llangadog-Llandeilo area’.
‘Silurian Field Excursion: a geotraverse across Wales and the Welsh Borderland’ (cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (cyfres ddaearegol), D.J.Siveter, R.M.Owens ac A.T.Thomas 1989, 133tt). Mae Pennod 5 yn sôn am ‘ardal Llanymddyfri-Llandeilo: amgylcheddau ymyl silffoedd ar ymyl deheuol Basn Cymru’.
Hefyd ar gael mae canllaw maes i ‘Geology of Powys in Outcrop’ a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys ar ddiwedd y 1970au. Nid yw mewn print bellach, ond mae copïau ar gael drwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd lleol. Mae’n disgrifio tua 10 lleoliad yn rhan Powys y Geoparc.
Daeareg Gwaternaidd
Mae llyfr tenau 2002 Richard Shakesby sy’n llawn gwybodaeth o’r enw ‘Classic Landforms of the Brecon Beacons’ (rhif 13 yng nghyfres Landform Guides y Gymdeithas Ddaearyddol) yn disgrifio geomorffoleg tirffurfiau rhewlifol yn y Mynydd Du, Fforest Fawr a chanolbarth y Bannau. (48tt am £9.95)
Cyhoeddodd y Quaternary Research Association ganllaw 275 tudalen yng ngwanwyn 2007 i gyd-fynd â’u gwibdaith maes pedwar diwrnod yn edrych yn bennaf ar etifeddiaeth yr oes iâ olaf yn Geoparc y Fforest Fawr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd ‘Quaternary of the Brecon Beacons: Field Guide’ yn apelio at y rhai sydd â diddordeb academaidd yn y pwnc ac mae ar gael am £20 gan QRA.
Taflenni SWGA
Gallwch lawrlwytho set o daflenni o wefan Grŵp de Cymru Cymdeithas y Daearegwyr. Maent yn cynnwys dyrnaid o deithiau cerdded gyda thema ddaearegol yn y Geoparc.


