Mapiau

Canllaw byr i’r amrywiaeth o fapiau sy’n cwmpasu Geoparc y Fforest Fawr.

Mae llun yn peintio mil o eiriau’ – gellir dweud yr un peth am fapiau sydd, yn y bôn, yn lluniau o’r dirwedd. Mae ystod o fapiau ar gael sy’n cwmpasu Geoparc y Fforest Fawr.

Mapiau Cyffredinol

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â mapiau’r Arolwg Ordnans – yr allwedd i fforio cefn gwlad ar droed neu fel arall.  Mae gwneuthurwyr mapiau eraill yn cynnig mapiau ‘topograffig’ tebyg hefyd, mewn amrywiaeth o raddfeydd. Dysgwch am beth sydd ar gael.

Mapiau Hanesyddol

Gall edrych ar hen fap ddatgelu pa newidiadau sydd wedi digwydd mewn ardal dros 50 neu 100 o flynyddoedd neu’n fwy – mae’n hynod o ddiddorol gweld rheilffyrdd yn dod ac yn mynd, chwareli a chronfeydd dŵr yn ymddangos a threfi a phentrefi’n ehangu.  Prynwch un ail-law, edrychwch ar gopi o’r llyfrgell neu prynwch gopi modern o hen fap.  Edrychwch i weld beth sydd ar gael.

Mapiau Daearegol

Beth yw’r garreg honno? Pam mae’r cymoedd mewn llinell? Yn aml gellir ateb cwestiynau fel hyn gyda map sy’n dangos y ddaeareg waelodol. Bu Arolwg Daearegol Prydain yn cyhoeddi mapiau ers dros 150 o flynyddoedd – edrychwch ar beth sydd ganddynt ar gael ar gyfer yr ardal hon.