Mapiau Cyffredinol

Mae mapiau cyffredinol (neu ‘dopograffig’) ardderchog sy’n cwmpasu ardal Geoparc y Fforest Fawr

Cyhoeddir nifer o gyfresi gan yr Arolwg Ordnans (asiantaeth mapio genedlaethol Prydain) a hefyd gan Harvey Maps – mae’r un diweddaraf mewn partneriaeth â Chyngor Mynydda Prydain.

Arolwg Ordnans — map graddfa 1:50,000

Mae tair dalen o gyfres Landranger yr Arolwg Ordnans yn cynnwys y Geoparc i gyd.  Mae’r mapiau hyn yn dod mewn cloriau magenta ac arian ac yn costio £6.99 yr un. Mae fersiynau gwrth-ddŵr ar gael am bris ychwanegol.  Mae mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans yn ddelfrydol ar gyfer beicio a theithio.

  • 146 Lampeter & Llandovery / Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri
  • 159 Swansea & Gower / Abertawe a Gŵyr
  • 160 Brecon Beacons / Bannau Brycheiniog

Arolwg Ordnans — mapiau graddfa 1:25,000

Mae tair dalen o gyfres Explorer yr Arolwg Ordnans yn cynnwys y Geoparc i gyd.  Mae’r mapiau hyn yn dod mewn cloriau oren ac arian ac maent yn costio £7.99 yr un. Gyda’u lefel manylder ychwanegol, mae mapiau Explorer yn ddelfrydol ar gyfer cerdded a fforio’r ardal leol. Mae fersiynau gwrth-ddŵr — Explorer MapActive – ar gael am £13.99.

  • No.OL 12: Brecon Beacons National Park – Western Area / Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Ardal Gorllewinol
  • No.178: Llanelli & Ammanford / Rhydaman
  • No.186: Llandeilo & Brechfa Forest / Fforest Brechfa

Mapiau Mynyddoedd Prydain — ‘Bannau Brycheiniog’ ‘

Wedi’i gyhoeddi gan Harveys a’r BMC yn 2011, mae’r ychwanegiad hwn i’r teulu mapiau sy’n cynnwys ardaloedd mynyddig Prydain Fawr yn cynnwys bron y Geoparc cyfan ar raddfa 1:40,000 a chydag esboniad manwl o ddaeareg yr ardal ar ochr arall y ddalen, gan gynnwys delwedd o’r dirwedd wedi’i lliwio i ddangos y gwahanol fathau o gerrig. Mae wedi’i argraffu ar bolyethylen er mwyn gwydnwch.

‘Harvey Superwalker’ — mapiau graddfa 1:25,000

Mae dwy ddalen yn cynnwys rhannau o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac maent ar gael am £9.99 yr un neu £17.90 am y set o ddwy.  Rhyngddynt maent yn cynnwys holl rannau ucheldirol Geoparc i’r dwyrain o ffordd yr A4069 o Frynaman i Langadog.  Maent yn ddelfrydol ar gyfer cerdded – gall eu darluniad o lystyfiant a chyflwr y ddaear mewn ardaloedd o ucheldir fod yn arbennig o ddefnyddiol.

  • Brecon Beacons West (yn cynnwys rhan ganolog y Geoparc)
  • Brecon Beacons East (yn cynnwys rhan ddwyreiniol y Geoparc)

‘Harvey Walker’s Map’ — map graddfa 1:40,000

Mae’r ‘Brecon Beacons Walkers Map’ yn cynnwys yr un tir yn fras â’r ddwy ddalen ar raddfa 1:25,000.  Mae ar gael am £5.75 ac mae’n wrth-ddŵr.

‘Brecon Beacons West’ A-Z Adventure Atlas – map graddfa 1: 25,000

Mae un o gyfres, y llyfryn maint A5 o’r enw ‘Brecon Beacons West’ yn cwmpasu’r Geoparc cyfan mewn 70 tudalen o fapio OS 1: 25,000 cyfoes. Mae ar gael am £ 7.95