Mapiau Hanesyddol

Gellir cael gafael ar hen fapiau ar wahanol raddfeydd o werthwyr mapiau arbenigol, siopau llyfrau ail-law ac o leoedd eraill. Yn aml bydd copïau wedi’u rhoi mewn llyfrgelloedd neu amgueddfeydd. Mae rhai cyhoeddwyr arbenigol yn cynnig fersiynau ‘newydd’ o hen fapiau.

Mapiau ‘Chwe modfedd’ a ’25 modfedd’

O ddiddordeb arbennig i haneswyr lleol ac, yn wir, i unrhyw un sydd eisiau edrych ar newidiadau yn y dirwedd dros y 150 mlynedd diwethaf mae’r dalennau graddfa 1:10560 (6 modfedd -1 filltir) a’r 1:2500 (25 modfedd 1 filltir) a gyhoeddir gan yr Arolwg Ordnans.  Gellir archwilio dalennau 6 modfedd – 1 filltir sy’n cynnwys adrannau Powys, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful y Geoparc yn llyfrgell Aberhonddu a’r rhai ar gyfer adran Caerfyrddin yn y swyddfa gofnodion yng Nghaerfyrddin.

Bydd chwilio ar y we yn dangos y gellir prynu copïau gwreiddiol a ffacsimili o’r dalennau hyn ac eraill o amrywiaeth o ffynonellau.

Gallwch hefyd weld mapiau hanesyddol yr Arolwg Ordnans ar raddfa o chwe modfedd i’r filltir (1: 10,560)  a dau ddeg pum odfedd (1:2500) o ardal y Geoparc ar-lein yn ddi-dâl ar wefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban