Symud i'r cynnwys. | Symud i lywio

Geoparc y Fforest Fawr

Geoparc Ewropeaidd Cyntaf Cymru

Mapiau daearegol

Mae Arolwg Daearegol Prydain (ADP/BGS) yn cyhoeddi nifer o fapiau ar wahanol raddfeydd sydd yn cynnwys ardal Geoparc y Fforest Fawr.

Map graddfa 1:250,000

Cyhoeddwyd y map dwyieithog ‘Creigiau Cymru’ / Rocks of Wales’ sydd yn dangos daeareg greigwely Cymru gyfan ym 1994.  Daw mewn clawr gwyrdd ac mae ar gael am £12.00

 

Mapiau graddfa 1:50,000

Mae angen pedair dalen o gyfres mapiau daearegol ‘Cymru a Lloegr’ i gwmpasu’r Geoparc yn llawn.

    • Rhif 212 'Llandovery'
    • Rhif 213 'Brecon'
    • Rhif 230 'Ammanford' (2 fersiwn ar gael – gweler isod)
    • Rhif 231 'Merthyr Tydfil' (2 fersiwn ar gael – gweler isod) 

Maent yn dod mewn cloriau gleision ac maent ar gael am £12.00.  Mae Dalen 213 hefyd ar gael fel rhan o becyn sydd yn cynnwys esboniad cryno o’r ddaeareg leol. Cost y pecyn yw £18.00. Bydd Dalen 212 ar gael ar ffurf debyg yn 2008.

Mae Dalenni 230 a 231 ar gael mewn fersiynau ‘Solet â drifft’ sydd yn dangos y ddaeareg greigwely ac mewn fersiynau ‘solet a drifft’ sydd hefyd yn dangos dyddodion arwynebol megis mawn a dyddodion afon a rhewlif. Mae 'memoir' sydd yn disgrifio ardal dalen 231 ar gael hefyd.

 

Mapiau graddfa 1:25,000

Ar gael cyn hir!  Dalen newydd yn cynnwys yr ardal o gwmpas Cribarth a Chraig-y-nos ym mlaenau Cwm Tawe. Llunir y llen hon yn arbennig i gwmpasu ‘Ardal Glasurol’ o daeareg De Cymru o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Disgwylir y bydd ar gael yn 2009/10.

 

Mapiau Arbenigol

Cyhoeddwyd Map Dyfrddaearegol De Cymru ar raddfa 1:250,000 sydd yn cynnwys agweddau o argaffaeledd, defnydd ac ansawdd dŵr daear gan ADP/BGS ym 1986.  Mae ar gael gan ADP/BGS am £12.50 ar ffurf wastad neu blygedig. 

Ewch at  siop fapiau ADP/BGS  arlein.

 

 

Gweithredoedd Dogfen