Symud i'r cynnwys. | Symud i lywio

Geoparc y Fforest Fawr

Geoparc Ewropeaidd Cyntaf Cymru

Mapiau hanesyddol

Mae copïau o hen fapiau ar wahanol raddfeydd ar gael o fasnachwyr mapiau arbenigol, siopau llyfrau ail-law alleoedd eraill. Yn aml, bydd copïau i’w gweld mewn llyfrgelloedd neu amgueddfeydd. Mae nifer fechan o gyhoeddwyr arbenigol yn cynnig fersiynau ‘newydd’ o hen fapiau.

 

Cyhoeddir dwy gyfres o fapiau hanesyddol yn cwmpasu Cymru a Lloegr ar raddfa 1:50,000 gan Cassini Maps.

 

Mapiau Hen Gyfres Cassini

Ad-argraffiadau ar ffurf dalenni gyfoes Landranger yr Arolwg Ordnans mewn du a gwyn o 1805 i 1874. Mae tair dalen o’r gyfres hon yn cwmpasu Geoparc y Fforest Fawr.  Maent ar gael am £6.99 yr un. Yn ddelfrydol am gymharu tirwedd heddiw a thirwedd dwy ganrif yn ôl.  

Mapiau Poblogaidd Cassini

Ad-argraffiadau ar ffurf dalenni gyfoes Landranger yr Arolwg Ordnans mewn lliw llawn o 1919 i 1926. Mae tair dalen o’r gyfres hon yn cwmpasu Geoparc y Fforest Fawr.  Maent ar gael am £6.99 yr un. Yn ddelfrydol am gymharu tirwedd heddiw a thirwedd pedwar ugain o flynyddoedd yn ôl.   

Rhifau dalenni ar gyfer y naill gyfres Cassini a’r llall:

    • Rhif 146: Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri
    • Rhif 159: Abertawe a Gŵyr
    • Rhif 160: Bannau Brycheiniog

 

Edrychwch ar www.cassinimaps.co.uk

 

Gweithredoedd Dogfen