Gweledigaeth ac amcanion

Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr: gweledigaeth, amcanion a chanlyniadau dymunol newydd

Gweledigaeth

  • Erbyn 2020, cydnabyddir Geoparc y Fforest Fawr fel Geoparc o’r radd flaenaf sy’n defnyddio ei ddynodiad i esgor ar fuddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Gan gydweithio â’i gymunedau lleol ac er eu lles, bydd yn cyflawni hyn trwy ganolbwyntio ar y dreftadaeth ddaearegol, ddiwylliannol a biolegol a thrwy gynnwys amrywiaeth eang o asiantaethau, busnesau ac ymwelwyr.

Amcanion

Drwy weithio mewn partneriaeth effeithlon ac effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol a rhanbarthol a thrwy ymgysylltu’n llwyr â’r Rhwydweithiau Geoparciau Ewropeaidd a Byd-eang, bydd Geoparc y Fforest Fawr yn:

  • Ysgogi cadwraeth geoamrywiaeth, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol ar raddfa dirweddol.
  • Ennyn brwdfrydedd ymhlith cymunedau lleol a’u busnesau i gydweithio’n gynaliadwy ac ymfalchïo yn y Geoparc.
  • Hybu datblygu economaidd cynaliadwy, yn enwedig twristiaeth gynaliadwy.
  • Datblygu gwybodaeth a dehongli uchel eu safon sy’n ategu profiad pleserus i ymwelwyr ac sy’n cysylltu pobl â’r Geoparc.
  • Gweithredu fel canolbwynt i ymchwil gwyddorau daear/amgylcheddol.
  • Darparu addysg amgylcheddol uchel ei safon i bob oedran.
  • Ceisio cynnwys pob sector o’r gymdeithas wrth ddatblygu ei waith.
  • Defnyddio ei dreftadaeth i annog ymwelwyr, busnesau a chymunedau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Monitro effeithiau’r Geoparc er mwyn dylanwadu ar gamau gweithredu yn y dyfodol.

Canlyniadau

  • Mae geoamrywiaeth, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y Fforest Fawr yn cael eu cadw a’u helaethu i’r oesoedd a ddêl.
  • Mae busnesau a chymunedau lleol yn gwerthfawrogi ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn y Geoparc.
  • Mae cymunedau a busnesau lleol yn ffynnu ac yn llewyrchus yn yr hirdymor.
  • Mae ymwelwyr yn cael profiadau cofiadwy rhagorol ac yn teimlo’n gysylltiedig â’r Geoparc.
  • Cydnabyddir y Fforest Fawr am ei gyfraniad i’n gwybodaeth am yr amgylchedd/ y gwyddorau daear ac am newid yn yr hinsawdd.
  • Mae geoamrywiaeth, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y Fforest Fawr yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi gan bob sector o’r gymdeithas.
  • Mae’r Geoparc yn ennyn brwdfrydedd ymwelwyr, busnesau a chymunedau i fynd i’r afael â materion newid yn yr hinsawdd.