Rhwydwaith Geoparciau Ewrop

Mae Geoparc y Fforest Fawr yn aelod o Rwydwaith Geoparciau Ewrop – teulu o 95 o ardaloedd dynodedig mewn 27 o wledydd ar draws y cyfandir. Dechreuodd Rhwydwaith Geoparciau Ewrop yn ystod trafodaeth rhwng dau ddaearegwr o Ffrainc a Gwlad Groeg a gwrddodd mewn cyngres ddaearegol ryngwladol ym 1997.

Gwelsant fod ganddynt ddiddordeb cyffredin mewn cadw a diogelu treftadaeth ddaearegol yr ardaloedd roeddent yn gweithio ynddynt.  Nid yn unig hynny ond roeddent yn awyddus i wella dealltwriaeth y cyhoedd o wyddorau’r ddaear.  Roeddent yn tybio y byddai datblygu atyniadau yn seiliedig ar ddaeareg ardal yn helpu ymwelwyr i werthfawrogi ac yn y pen draw i ofalu am y rhinweddau arbennig hynny.

Edrychont ledled Ewrop am bartneriaid eraill a oedd yn rhannu’r delfrydau hyn ac yn fuan daethant o hyd iddynt yn Haute Provence (Ffrainc), Maestrazgo / Terruel (Sbaen), ynys Lesvos (Gwlad Groeg) a Vulkaneifel (Yr Almaen).  Enillodd y grŵp o bedwar hwn gyllid o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn cyflawni eu nodau ac felly crëwyd Rhwydwaith Geoparciau Ewrop.

Ers hynny, mae mwy na 90 ardaloedd eraill ar draws Ewrop wedi ymuno â’r rhwydwaith fel y mae’r map uchod yn dangos.

Rwydwaith Geoparciau Ewropaidd, gwanwyn 2022

Yn 2004, penderfynodd UNESCO gynorthwyo â sefydlu Rhwydwaith Byd-eang y Geoparciau, a daeth yr 17 Geoparc yn Ewrop ynghyd ag 8 Geoparc newydd yn Tsieina yn rhan ohono. Bellach mae Geoparciau yn Canada, Chile, De Corea, Ecuador, Indonesia, Malaysia, Morocco, Nicaragua, Peru, Ffederasiwn Rwsia, Siapan, Tansania a Brasil hefyd. Ewch i wefan Rhwydwaith Geoparciau Ewrop. Ym mis Tachwedd 2015 daeth y rhwydwaith ehangach hwn yn rhan o raglen gyntaf UNESCO ers 40 mlynedd, ac yn sefydlu’r parc yn ffurfiol fel rhan o Rwydwaith Geoparc Byd-eang UNESCO (GBU).

Yr Almaen

Awstria

Croatia

Cyprus

Denmarc

DU

Yr Eidal

Ffederasiwn Rwseg

  • GBU Yangan-Tau

Y Ffindir

Ffrainc

Gweriniaeth Iwerddon

Gwlad Belg

Gwlad Groeg

Gwlad yr Iâ

Gwlad Pwyl

Hwngari

Yr Iseldiroedd

Lwcsembwrg

Norwy

Portiwgal

Rwmania

Sbaen

Serbia

Slofacia

Slofenia

Sweden

Twrci

Y Weriniaeth Tsiec