Nodiadau cymorth ar gyfer Gŵyl y Geoparc

Bydd y nodiadau hyn yn eich helpu i gael y gorau o’r Ŵyl. PWYSIG – darllenwch yr ymwrthodiad cyfreithiol ar waelod y dudalen.

Rhaglen y Teithiau Cerdded

Gosodir disgrifiadau’r teithiau cerdded yn y modd hwn:

Teitl

Diwrnod/dyddiad/amser

Mae’n bosibl y bydd teithiau cerdded yn gorffen yn gynharach neu’n hwyrach nag yr amser a nodwyd ond bydd yr arweinydd yn ceisio cadw at yr amseriadau a hysbysebir.  Mae’n bosibl y bydd arweinwyr y teithiau cerdded yn newid y llwybr a hysbysebir yn achos tywydd gwael neu ffactorau eraill.  Mewn achosion eithafol mae’n bosibl y caiff y digwyddiad ei ganslo.  Caiff unrhyw newidiadau o’r fath a wneir cyn diwrnod y daith gerdded eu hysbysebu ar y wefan hon.  Cofiwch ddod â chinio pecyn, byrbryd a digonedd o ddiodydd ar gyfer teithiau cerdded trwy’r dydd.

Disgrifiad o’r digwyddiad

Cyfarfod

Ble i gyfarfod gyda chyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans – mae’r cyfan ar ddalen OL12 Explorer yr Arolwg Ordnans ‘Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; ardal orllewinol’.

Hyd/gradd

Mewn cilometrau a milltiroedd. Darperir graddau ar gyfer teithiau cerdded er arweiniad cyffredinol yn unig.  Gall eich ffitrwydd eich hun, amgylchiadau amrywiol o dan draed (ee gwlyb neu sych) a’r tywydd (ee gwynt, glaw neu niwl ar y bryniau) beri i daith gerdded fod yn anoddach na’r bwriad.  Gall llethrau, tir garw a rhwystrau ffisegol megis camfeydd neu risiau effeithio ar wahanol bobl i  wahanol raddau.  Os oes unrhyw amheuaeth, dewiswch deithiau cerdded rhwyddach tan eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

  • 1 Mynediad i bawb: llwybrau gwastad, ag arwyneb fel arfer heb unrhyw gamfeydd neu rwystrau, sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwynion a chadeiriau gwthio
  • 2 Rhwydd: cyflymder rhwydd sy’n addas ar gyfer cerddwyr newydd
  • Cymedrol: cyflymder cyson ond mae rhywfaint o ddringo
  • 4 Egnïol: rhywfaint o ddringo serth, yn dda ar gyfer gwella ffitrwydd
  • 5 Ymdrechgar: teithiau cerdded hirach gyda thipyn o ddringo serth, sy’n gofyn am lefel ffitrwydd dda

Arweinwyr

Mae pob un o’r teithiau cerdded a gynhelir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dilyn canllawiau diogelwch gan y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur.  Mae arweinwyr (naill ai staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu wirfoddolwyr) yn brofiadol ac maent wedi’u hyfforddi’n llawn mewn diogelwch a chymorth cyntaf. Bydd rhaid i unrhyw un o dan 18 oed fynd gydag oedolyn.

Rhagor o wybodaeth

Rhifau ffôn er mwyn cael rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a (lle bo’n gymwys) i gadw lle.

Nodiadau

Gallwch chi ddod i’r man cychwyn ar gyfer y rhan fwyaf o’r digwyddiadau yn ystod yr Ŵyl er nid oes sicrwydd y byddwch yn cael lle os bydd y cyfanswm yn fwy na’r nifer uchaf a ganiateir .

Cŵn

Sori – diwm cŵn. Sylwer o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, wrth fynd â chŵn ar dir Mynediad Agored yr adeg hon o’r flwyddyn mae’n rhaid iddynt fod ar dennyn gosodedig, heb fod yn fwy na 2 fetr o hyd, bob amser.

Beth sy’n digwydd ar daith gerdded dywysedig?

Oni bai bod rhaid i chi gadw lle o flaen llaw dewch i’r man cyfarfod cyn yr amser dechrau. Bydd yr arweinydd yn cyflwyno ei hun, yn dweud wrthych am y daith gerdded a gwirio bod gan bawb y cit cywir. Bydd yr arweinydd neu’r tywysydd yn dweud wrthych am bwyntiau o ddiddordeb yn ystod y daith gerdded a bydd yn fodlon ateb cwestiynau. Efallai bydd yr arweinydd yn dosbarthu ffurflen ar y diwedd er mwyn cael adborth i’n helpu i wella mwynhad cyfranogwyr o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Cewch gyfle i wneud cyfraniad bychan at gostau cynnal y rhaglen ddigwyddiadau yn y Geoparc.

Byddwch yn barod!

Dylech fod wedi paratoi yn briodol – bydd amgylchiadau’r tywydd yn awgrymu a yw hyn yn golygu het haul neu het wlân – mae’n bosibl y bydd angen y ddau ar un daith gerdded! Dillad cynnes ar gyfer diwrnodau oer/llewys hir i’ch amddiffyn yn erbyn llosg haul – a dillad sbâr yn eich sach deithio, gan gynnwys siaced a throwsus gwrth-ddŵr. Bydd gofyn am esgidiau cerdded ar y rhan fwyaf o deithiau cerdded. Gwiriwch a fydd angen i chi ddod â chinio pecyn gyda chi – mae byrbryd a diod (poeth a/neu oer) yn syniad da beth bynnag.   Bydd gan arweinydd y daith gerdded git cymorth cyntaf ond peidiwch ag anghofio dod ag unrhyw feddyginiaeth arbennig rydych ei hangen (gan gynnwys eli haul).  Rhowch wybod i’r arweinydd ar y dechrau os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol mae’n rhaid iddo/iddi fod yn ymwybodol ohonynt – ffoniwch o flaen llaw os oes angen.

Plant

Mae’n rhaid i bob plentyn (o dan 17 oed) ddod gydag oedolyn cyfrifol a fydd yn gyfrifol am y plentyn hwnnw drwy gydol y digwyddiad.

Eich diogelwch

Dylech chi fod yn fodlon bod y daith gerdded o fewn eich gallu – cymerwch gyngor o flaen llaw os bydd angen, drwy ffonio’r rhif ffôn a roddwyd. Mae’n bosibl y bydd arweinydd taith gerdded yn gwrthod caniatáu i unrhyw un ymuno â’r daith gerdded os, yn ei farn ef, nad yw’r offer priodol ganddo neu os yw mewn perygl mewn ffordd arall o fethu â chwblhau’r daith gerdded. Er mwyn eich diogelwch eich hun, dylech ystyried unrhyw gyfarwyddiadau arbennig y mae arweinydd y daith gerdded yn eu rhoi cyn neu yn ystod y daith gerdded.

Dysgwch fwy am Geoparc y Fforest Fawr

Canolfan y Sgydau, Pontneddfechan

Gweler arddangosfa’r Geoparc. Mae toiledau, tafarn a siop gerllaw. (7 diwrnod yr wythnos). Ffoniwch 01639 721795 neu anfonwch neges e-bost at  pontneddfechanic@breconbeacons.org

Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (‘Y Ganolfan Fynydd’)

Ar ymyl comin Mynydd Illtud uwchben pentref Libanus. Siop de, siop ac arddangosfeydd poblogaidd. Rhaid talu i barcio ceir. Ffoniwch 01874 623366 neu anfonwch neges e-bost at  visitor.centre@breconbeacons.org

Canolfan Dreftadaeth a Gwybodaeth Llanymddyfri

Siop ac arddangosfa am y daearegwr arloesol Syr Roderick Murchison.  Parcio talu ac arddangos, toiledau gerllaw. Ar gau ynystod y gaeaf, yn agor eto adeg y Pasg. Ffoniwch 01550 720693 neu anfonwch neges e-bost at llandoveryic@breconbeacons.org

Canolfannau Groeso eraill

Mae Canolfannau Croeso eraill yn Y Fenni, Blaenafon, Aberhonddu, Talgarth, Crughywel, Y Gelli a Merthyr Tudful. Gall y lleoedd canlynol ddarparu ystod fach o lenyddiaeth ar y Geoparc a’r Parc Cenedlaethol ehangach:

  • Canolfan y Mynydd Du, Brynaman
  • Maes Parcio Cwm Porth, Ystradfellte (Bro’r Sgydau)

Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd ac Arolwg Daearegol Prydain, ddiolch i’r holl sefydliadau a’u staff a’u gwirfoddolwyr unigol a gytunodd i roi eu hamser a’u harbenigedd i wneud Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr 2015 yn rhaglen mor ddifyr ac amrywiol, yn bennaf Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog a Phrifysgol Abertawe.

Newyddion Diweddaraf!

Caiff newidiadau i fanylion digwyddiadau a restrir yma eu hysbysebu ar y wefan hon. Cofiwch wirio am ddiweddariadau!

Ymwrthodiad

  • Cyhoeddwyd y canllaw hwn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Er y gwnaed ymdrechion rhesymol i sicrhau bod cynnwys y canllaw hwn yn gywir, darperir y canllaw hwn er gwybodaeth yn unig. Nid yw’r Awdurdod yn gwarantu cywirdeb cynnwys y canllaw hwn.
  • Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i newid cynnwys y canllaw hwn unrhyw bryd heb rybudd blaenorol. Nid yw’r Awdurdod yn gyfrifol am y digwyddiadau a gynhelir gan drydydd parti. Darperir manylion am ddigwyddiadau a gynhelir gan drydydd partïon ac sy’n gynwysedig yn y canllaw hwn er gwybodaeth yn unig. Gall digwyddiadau sy’n gynwysedig yn y canllaw hwn newid heb rybudd. Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw faterion a all ddigwydd oherwydd camgymeriadau, anghywirdebau neu hepgoriadau sy’n gynwysedig yn y canllaw hwn. Nid yw’r Awdurdod yn rhoi unrhyw warantau, yn glir neu awgrymedig, o ran argaeledd, addasrwydd neu ddiogelwch y digwyddiadau a ddisgrifir yn y canllaw hwn. Bydd cyfranogi yn y digwyddiadau er risg yr unigolyn yn gyfan gwbl.

Fformatau eraill

Mae’r holl wybodaeth sy’n gynwysedig yma ar gael ar gais mewn fformatau eraill gan gynnwys print bras, ar ddisg ac mewn Braille.