Ble mae’r Geoparc?

Mae’r Geoparc y tu mewn i  Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Mae’n cynnwys hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol, sy’n ymestyn o Lanymddyfri yn y gogledd i ymyl Merthyr Tudful yn y de, o Landeilo yn y gorllewin i Aberhonddu yn y dwyrain.

Mae’r Fforest Fawr yn ystod o dir ucheldirol a gafodd ei gynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog pan gafodd ei ddynodi ym 1957.  Mae’r ucheldiroedd hyn ynghanol y Geoparc, er ei fod yn ymestyn y tu hwnt iddynt er mwyn cynnwys llawer o gefn gwlad o’u cwmpas.

Yn wir mae 300 milltir sgwâr / 763 cilometr sgwâr Geoparc y Fforest Fawr yn cynnwys mynyddoedd a rhostir, coedwigoedd a dolydd, trefi a phentrefi, llynnoedd ac afonydd a llawer mwy hefyd.

Dechreuwch eich archwiliad o’r Geoparc drwy archwilio’r tudalennau hyn:

  • Bydd Deall yn rhoi gwybodaeth i chi am bob math o bynciau.
  • Bydd Mwynhau yn rhoi syniadau i chi o leoedd i’w gweld a phethau i’w gwneud.
  • Mae’r adran Gofalu yn disgrifio sut caiff yr ardal ei diogelu a sut y gallwch chi helpu.
  • Mae Addysg ar gyfer y rhai sydd eisiau defnyddio’r Geoparc fel ystafell ddosbarth awyr agored.
  • Mae Beth sy’n digwydd yn rhoi manylion o deithiau a sgyrsiau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod – gan gynnwys Gŵyl Flynyddol Geoparc y Fforest Fawr ar ddiwedd mis Mai/dechrau mis Mehefin.
  • Caiff Newyddion Geoparc y Fforest Fawr — cylchlythyr ar gyfer yr ardal  — ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Pan fyddwch yn gwybod ychydig yn fwy byddwch yn barod i ymweld â ni. Nawr, mae dod yma yn rhwydd!

Ewch ar y trên!

Mae Rheilffordd Calon Cymru yn rhedeg ar hyd Cwm Tawe.  Mae’r Geoparc o fewn cyrraedd rhwydd o’r gorsafoedd ar y rheilffordd hon yn Llanymddyfri, Llangadog, Llandeilo a Rhydaman.  Mae gorsafoedd hefyd ym Merthyr Tudful yng nghornel de-ddwyreiniol yr ardal ac mae’r Fenni i’r dwyrain ar Reilffordd Casnewydd i Henffordd.  Ewch i  Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol i gael manylion o’r gwasanaethau.

. . neu ar y bws!

Mae nifer o wasanaethau bysiau sy’n rhedeg trwy’r Geoparc. Ewch i Traveline Cymru i gael rhagor o wybodaeth. Mae gwasanaethau Bws y Bannau arbennig yn gweithredu trwy’r haf ac maent yn rhoi cyfle ardderchog i gerddwyr ddod i adnabod yr ardal yn well.

Gallech chi ddod yn y car.

Mae’r A40 yn rhedeg o’r Fenni i Aberhonddu, wedyn ar hyd ymyl ogleddol y Geoparc i Lanymddyfri a Llandeilo.  Mae A465, sef  ‘Ffordd Blaenau’r Cymoedd’ yn rhedeg ar hyd ymyl deheuol y Geoparc o Ferthyr Tudful i Gwm Nedd.  Mae modd cyrraedd rhan orllewinol y Geoparc o ddiwedd yr M4 o fewn 30 munud.

. . . ond beth am feicio?

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn ehangu trwy’r amser ac mae nifer o lwybrau sy’n cysylltu â Geoparc y Fforest Fawr.  Gwnewch les i chi eich hun ac i’r amgylchedd – ewch ar y beic!

Map

Lleoliad Ewrop-eang