Cyflwyniad i gymunedau gweinyddol
Mae llawer o ddiffiniadau posibl ar gyfer cymuned. Yr un a ddefnyddir yma yw cymuned weinyddol. Mae tua dau ddwsin sydd i’w cael yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn Geoparc y Fforest Fawr.
Gall ffiniau cymunedau ymddangos ar yr olwg gyntaf ychydig yn ddryslyd gan nad ydynt bob amser yn dilyn unrhyw nodwedd amlwg sy’n naturiol neu o waith dyn ac nid yw un gymuned o reidrwydd yn ymestyn dros yr ardal y gellid tybio ei bod yn gymuned ‘naturiol’.
Mae ffiniau cymunedol modern yn aml yn wahanol i’w rhagflaenwyr ac mae rhai wedi diflannu’n gyfan gwbl felly byddwch yn edrych yn ofer ar fap modern am ‘Traianglas’, ‘Llandingat Without’ neu ‘Modrydd’ er enghraifft.
Cynghorau Cymuned
Mae’r ‘gymuned’ yn fersiwn Gymreig ar y ‘plwyf’ y bydd ymwelwyr o Loegr yn fwy cyfarwydd ag ef. Mae gan y ddau gynghorau a elwir yn ‘gynghorau cymuned’ neu ‘gynghorau plwyf’ fel y bo’n briodol ond mae’r rhai sy’n gysylltiedig ag aneddiadau mwy o faint yn tueddu i gael eu galw’n ‘gynghorau tref’.
Y cyngor cymuned yw ail haenen llywodraeth leol yng Nghymru. Yr haenen gyntaf yw’r Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol amrywiol megis Powys, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae cymunedau sy’n cyffinio â’r Geoparc neu sy’n disgyn ond yn rhannol i’r Geoparc ei hun wedi’u cynnwys am resymau cyflawnrwydd. Dynodir unrhyw leoliadau y tu allan i ffin y Geoparc â seren (*).
Sir Gaerfyrddin
- Brynaman — gweler Chwarter Bach
- Cwmaman — yn cynnwys Garwnant* a Glanaman*
- Dyffryn Cennen — yn cynnwys Dre-fach, Ffairfach* a Thrap
- Llanddeusant — yn cynnwys Twynllanan
- Llandeilo
- Llanymddyfri
- Llandybie
- Llanfair-ar-y-Bryn — yn cynnwys Halfway
- Llangadog — yn cynnwys Bethlehem a Chapel Gwynfe
- Myddfai
- Chwarter Bach — yn cynnwys Brynaman*, Rhosaman* ac Ystradowen*
- Trap — gweler Dyffryn Cennen
Merthyr Tudful
- Cyfarthfa — yn cynnwys Gellideg* a Heolgerrig*
- Pant
- Pontsticill — gweler Y Faenor
- Y Faenor — yn cynnwys Cefn-coed-y-cymer*, Llwyn-on, Pontsticill a Threfechan*
Castell-nedd Port Talbot
- Glyn-nedd
- Onllwyn — yn cynnwys Banwen* a Dyffryn Cellwen*
Powys
- Abercraf — gweler Ystradgynlais
- Aberhonddu — yn cynnwys Llanfaes
- Crai
- Glyn Tarell — yn cynnwys Libanus, Llansbyddid a Thai’r Bull
- Heol Senni — gweler Maescar
- Honddu Isaf — yn cynnwys Llandefaelog*
- Libanus — gweler Glyn Tarell
- Llanddew
- Llanfrynach — yn cynnwys Groesffordd, Llanhamlach* a Llechfaen*
- Llywel — yn cynnwys Trecastell
- Maescar — yn cynnwys Defynnog, Heol Senni, Pentre’r-felin a Phontsenni
- Pontneddfechan — gweler Ystradfellte
- Pontsenni — gweler Maescar
- Tal-y-bont ar Wysg — yn cynnwys Pencelli*, Aber * a Scethrog*
- Tawe Uchaf — yn cynnwys Caehopkin*, Coelbren*, Glyntawe, Pen-y-cae ac Ynyswen
- Trallong
- Trecastell — gweler Llywel
- Yscir — yn cynnwys Battle* a Chradog
- Ystradfellte — yn cynnwys Pontneddfechan
- Ystradgynlais — yn cynnwys Abercraf*, Cwmgiedd a Chwm-twrch-isaf*
Rhondda Cynon Taf
- Hirwaun — yn cynnwys Penderyn
- Llwydcoed
- Penderyn — gweler Hirwaun
- Rhigos — yn cynnwys Cefn Rhigos*


