Cerrig adeiladu’r Geoparc

Adlewyrchir daeareg amrywiol y Geoparc yn y defnydd a wnaed dros ganrifoedd lawer ar y cerrig brodorol sydd yma mewn adeiladau o bob llun a maint.

Haenau Glo

Mae Tywodfaen ‘Glas’ Pennant sydd i’w gael yn helaeth i’r de o’r Geoparc wedi ei ddefnyddio ar gyfer adeiladau bob dydd yng nghymoedd Maes Glo De Cymru ac ar gyfer adeiladau mwy mawreddog fel Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, ychydig y tu allan i’r Geoparc. Nid yw’n brigo i’r wyneb yn naturiol yn y Geoparc ond mae’n dal i gael ei gludo i’r ardal ar gyfer amrywiaeth o adeiladau, ee:

  • Tŷ Tafarn y Royal Oak, Pontsenni

Mae amrywiad glas/llwyd o Dywodfaen Pennant o Fforest y Ddena efallai wedi ei ddwyn i mewn ar gyfer adeiladu Barics Aberhonddu.

Mae Y Garreg Ddiffaith wedi cael ei defnyddio ar gyfer adeiladau mewn mannau fel Brynaman, Pen-y-cae a Phonsticill.

Calchfaen Carbonifferaidd

Y prif ddefnydd sydd wedi bod ar Galchfaen Carbonifferaidd yw ar gyfer waliau cerrig sychion yn amffinio caeau o amgylch lle mae’r garreg yn brigo i’r wyneb a hynny efallai ar ei fwyaf amlwg mewn ardaloedd fel Ystradfellte. Mae hefyd wedi ei defnyddio mewn adeiladau a gellir ei gweld ym muriau Castell Craig-y-nos ym mhen uchaf Cwm Tawe.

Fe’i defnyddir yn fwyaf trawiadol yn y Geoparc ym muriau amddiffynol Castell Carreg Cennen sy’n eistedd ar ben clogwyni o’r un garreg sy’n codi’n uchel uwchlaw Afon Cennen.

Grutfaen Melinfaen (Tywodfaen Twrch)

Defnyddir yn helaeth mewn waliau caeau yn y wlad lle mae ar yr wyneb.

Hen Dywodfaen Coch

Mae daearegwyr yn priodoli’r cerrig hyn i’r cyfnodau Dyfnantaidd a Silwraidd uchaf. Gellir gweld lliwiau browngoch cyfoethog yr Hen Dywodfaen Coch mewn llawer o dai tafarnau ac eglwysi, ffermdai a thrigfannau cyffredin o amgylch y Geoparc. Mae Cadeirlan Aberhonddu yn cynnwys tywodfaen marŵn o Ffurfiant Llanfocha er enghraifft, ac mae’r is-orsaf drydan ym Mhontsenni wedi ei chodi o dywodfaen llwydwyrdd o Ffurfiant Gwelyau Senni.

Lle ceid bod y garreg yn arbennig o ‘fflaglyd’, hy roedd hi’n hollti’n rhwydd yn llenni tenau, yna agorwyd chwareli i ffurfio llechfeini to o’r deunydd. Gellir dilyn gweddillion trawiadol y gweithfeydd ar hyd brigiad un gwely cerrig o’r fath, y ‘Ffurfiant Llechfeini’, am ddegau o filltiroedd ar draws y wlad mewn lleoedd fel  Mynydd Myddfai. Mae to Eglwys Llandyfan yn defnyddio’r llechfeini hyn.

Mae briciau wedi eu gwneud o gerrig llaid oddi mewn i ddilyniant yr Hen Dywodfaen Coch hefyd i’w gweld mewn lleoedd fel Aberhonddu.

Cerrig Silwraidd ac Ordoficaidd

Defnyddir tywodfaen o’r oes Ordificaidd mewn adeiladau yn Llandeilo a Llanymddyfri ar ystlysau gogledd orllewin y Geoparc. Mae’r llechfeini y cyfeirir atynt uchod yn nodi gwaelod yr Hen Dywodfaen Coch er eu bod mewn gwirionedd o’r oes Silwraidd.

Mae muriau gogleddol a gorllewinol yr eglwys ym Myddfai yn corffori tywodfaen olewyrdd o Ffurfiant Tywodfaen Sawdde.

Mae’r felin ym mhentref Bethlehem yn cynnwys tywodfaen llwyd/olewyrdd o Ffurfiant Cerrig Llorio Llandeilo ac mae’r hen dafarn ym Mhont ar Llechau yn corffori tywodfaen o Ffurfiant Tywodfaen Mynydd Myddfai.

Darllen pellach

Cadwch lygad allan am y daflen ddwyieithog ‘Daeareg a cherrig adeiladu yng Nghymru (de)’ a gyhoeddwyd gan Arolwg Daearegol Prydain ac sydd ar gael yn lleol drwy ganolfannau gwybodaeth y Parc Cenedlaethol.

Roedd Ystradfellte yn destun prosiect cydweithiol Ewropeaidd ychydig flynyddoedd yn ôl a disgrifir taith gerdded sy’n edrych ar y defnydd ar galchfaen yn yr ardal.

Cyhoeddodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru adroddiad arbenigol gan John Davies a Jana Horek ar ‘Y Defnydd ar Gerrig Adeiladu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog’ yn 2009. Edrychwch hefyd ar dudalennau gwe  Fforwm Cerrig Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.