Odynnau Calch

Treftadaeth o losgi calch ar raddfa eang

Wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y Geoparc mae odynnau calch o siapiau a meintiau gwahanol mewn sawl cyflwr o syrthio oddi wrth ei gilydd. Maent yn ein hatgoffa am amser a fu pan oedd llosgi calch i gynhyrchu calch brwd yn ddiwydiant pwysig. Roedd defnydd helaeth ar galch i wneud morter calch cyn dyfodiad sment modern a defnyddid ef hefyd i wella tir amaethyddol. Roedd sawl defnydd arall arno hefyd,

Yn ei hanfod calsiwm carbonad (CaCO3) yw calchfaen. Pan losgir calchfaen ar dymheredd dros 900oC – proses o’r enw calchynnu  – rhyddheir nwy carbon deuocsid a gadewir gweddill o galch brwd (calsiwm ocsid neu CaO).

CaCO3 ->    CaO + CO2

Mae ychwanegu dŵr at hwn – gelwir hyn yn slacio – yn rhoi calch tawdd (calsiwm hydrocsid neu Ca(OH)2).

CaO + H20    ->    Ca(OH)2

Bydd calch tawdd yn adweithio’n araf gyda charbon deuocsid a dŵr yn yr atmosffer i droi’n ôl yn galsiwm carbonad – dyma sydd yn ei wneud yn sment defnyddiol ar gyfer clymu briciau neu gerrig wrth ei gilydd.

Adeiladwyd odynnau calch lle gellid dod â chalchfaen a’r tanwydd i’w losgi at ei gilydd. Yn gyffredinol pren fyddai’r tanwydd. Gellir dod o hyd iddynt yn aml wrth ochrau camlesi, ffyrdd neu reilffyrdd a fyddai wedi galluogi dod â’r calchfaen a’r pren (neu lo) atynt a mynd â’r calch yn rhwydd i gael ei ddefnyddio yn rhywle arall.

Mae nifer o enghreifftiau gwych yn aros mewn amryw o leoedd yn y Geoparc:

  • i’r de o’r gamlas yn Y Watwn, Aberhonddu,
  • hen lofa Cwm Henllys yng Nghwm Twrch,,
  • Chwarel Herbert oddi ar ffordd Llangadog/Brynaman
  • Penwyllt ym mhen uchaf Cwm Tawe.