Goresgyn Cymru gan y Normaniaid

Cychwynnodd y Normaniaid ar oresgyn Cymru yn fuan ar ôl i Loegr gael ei threchu gan William y Concwerwr ym 1066OC.

Roedd cyrchoedd cychwynnol y Normaniaid i Gymru tua 1070 OC yn cael eu cysylltu â chyfnod o adeiladu cestyll yn nhiroedd y Mers ac yng Nghaerdydd. Dilynwyd hyn gan gyfnod dwysach o goncwest yn ystod teyrnasiad  Edward I (1272 OC – 1307 OC) ac roedd goresgyn De Cymru wedi gorffen erbym 1093 OC.

Roedd gweithgarwch y Normaniaid ar ei ddwysaf yn bennaf yn ardaloedd iseldiroedd y Geoparc. Ar y dechrau roeddent yn codi cestyll tomen a beili hy tomenni pridd wedi’u hamgylchynu gan ffos a gwaith pridd gyda ffens o byst pren. Dilynwyd y rhain yn fuan gan adeiladu neu ymestyn ceyrydd parhaol. Enghreifftiau o hyn yw Castell Aberhonddu a adeiladwyd yng nghymer Afon Wysg ac Afon Honddu a Chastell Carreg Cennen (castell Cymreig) sydd wedi ei godi ar allgraig 90m o uchder o Galchfaen Carbonifferaidd a gysylltir â Chylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen.

Dilynwyd ansefydlogrwydd hinsawdd y cyfnod blaenorol gan hinsawdd optimwm rhwng tua 1050 a 1150 OC. Cysylltir yr amser hwn gyda chliriadau ar y llethrau isaf a gweithgaredd dwysach gyda thyfu cnydau grawnfwyd. Fe’i cysylltir hefyd gyda gweddillion adeiladau petryal ar lethrau’r Mynydd Du.