Llinell Amser y Geoparc

Mae pobl wedi bod wrthi’n llunio ac ail-lunio’r dirwedd hon am filoedd o flynyddoedd. Dylai’r Llinell Amser eich cynorthwyo i ddeall beth a ddigwyddodd pryd yn ystod y canrifoedd diwethaf.

Rhestrir digwyddiadau allweddol sydd wedi siapio’r ardal mewn trefn gronolegol. Digwyddodd rhai y tu allan i ardal y Geoparc ond roedd ganddynt effeithiau dwys arni, er enghraifft adeiladu cysylltiadau camlas i’r de a oedd yn caniatáu mwy o fwyngloddfeydd a chwareli ym mryniau’r Geoparc.

Os ydych am edrych yn ôl ymhellach mewn amser daearegol yna edrychwch ar y llinell amser ddaearegol.

Blwyddyn

  • AD 50au a 60au: Ymgyrchoedd gan y Rhufeiniaid yn treiddio i’r gorllewin at Ddyffryn Tywi, gan sefydlu gwersylloedd yn ardal Mynydd Myddfai.   Sefydlu caer Rufeinig Y Gaer ger Aberhonddu.
  • c.200: Y Gaer ger Aberhonddu yn gorffen gweithredu fel canolfan filwrol i’r Rhufeiniaid
  • 1093: Wedi trechu’r arweinwyr o Gymry yn y rhanbarth, mae Bernard de Neufmarche, Arglwydd Normanaidd cyntaf Brycheiniog yn creu tir hela ‘Fforest Fawr Brycheiniog’.
  • c. 1095: Bernard de Neufmarche yn adeiladu’r domen yn Nhrecastell.
  • 1096: Brwydr Aber-llech – buddugoliaeth y Cymry dros luoedd y Normaniaid yng nghymer Nant Llech ac Afon Tawe ger Abercraf
  • c.1100: Cadeirlan Aberhonddu yn cael ei sefydlu fel priordy i’r Benedictiaid.
  • 1248: Yr Arglwydd o Gymro, Rhys Fychan yn adennill Castell Carreg Cennen oddi ar y Saeson.
  • 1277: Y Brenin Edward I yn cipio Castell Carreg Cennen oddi ar Maredudd ap Rhys Grug.
  • 1403: Cadarnle’r Saeson yng Nghastell Carreg Cennen dan warchae yn ystod y gwrthryfel dan arweiniad Owain Glyndŵr.
  • 1462: Dinistrio Castell Carreg Cennen ar ôl trechu’r Lancastriaid oedd yn ei ddal gan yr Iorciaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.
  • 1521: Y Goron yn meddiannu tiroedd ‘Fforest Fawr Brycheiniog’.
  • c.1550: Dechrau’r ‘Oes Iâ Fechan’
  • 1617: Rhoi porfelaeth y Fforest Fawr i Syr Francis Bacon ac eraill.
  • 1695: Marw Henry Vaughan
  • 1724: Daniel Defoe yn ymweld â’r ardal ac yn ei disgrifio fel ‘erchyll a dychrynllyd’
  • 1755: Sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog
  • 1760: Dechrau’r Chwyldro Diwydiannol.
  • 1780s: Cloddio Carreg silica am y tro cyntaf ger Craig-y-ddinas
  • 1794: Dechrau adeiladu Camlas Abertawe.
  • 1795: Cwblhau Camlas Castell-nedd o Gastell-nedd i Lyn-nedd.
  • 1798: Cwblhau adeiladu Camlas Abertawe i Abercraf.
  • 1807: Adeiladu ‘Tramffordd Dr Bevan’ o Graig Dinas i Gamlas Castell-nedd.
  • 1808: Deddf Seneddol yn galluogi gwerthu Fforest Fawr Brycheiniog.
  • 1816: Agor Tramffordd Aberhonddu a’r Gelli.
  • 1817: Amgáu’r Fforest Fawr.
  • 1819: (neu 1815?)  Prynodd y masnachwr cyfoethog o Lundain, John Christie, ran fawr o’r Fforest Fawr pan werthwyd hi gan y Goron i dalu am Ryfeloedd Napoleon.
  • 1819: Perchennog glofa Cwm Aman, John Jones, yn adeiladu’r ffordd rhwng Brynaman a Llangadog dros y Mynydd Du.
  • 1820: William Weston Young yn dyfeisio’r fricsen wrthsafol (neu’r ‘fricsen dân’)
  • 1821: John Christie yn gorffen adeiladu fferm fodel Cnewr.
  • 1822: William Weston Young yn sefydlu Cwmni Briciau Silica Dinas.
  • 1824: John Christie yn gorffen y dramffordd 10 milltir o chwarel Pwll Byfre i Bontsenni.
  • 1825: John Christie yn adeiladu odynnau calch yn Nhwyn-y-ffald, Penwyllt.
  • 1826: John Christie yn dechrau adeiladu amryw o dramffyrdd yng Nghribarth.
  • 1827: John Christie yn fethdalwr.
  • 1835, Rhagfyr: Y Goets Fawr rhwng Caerloyw a Chaerfyrddin yn syrthio i geunant y tu allan i Lanymddyfri. Codwyd cofeb wedi hynny ar fin y ffordd yn rhybuddio rhag peryglon yfed a gyrru.
  • 1836: Datblygu techneg toddi haearn chwythu poeth gan David Thomas yn y gwaith oedd piau George Crane yn Ynyscedwyn ger Ystradgynlais.
  • 1839: Syr Roderick Murchison yn cyhoeddi ‘The Silurian System’ yn dilyn gwaith maes yng nghanolbarth Cymru.
  • 1840: Odynnau calch newydd yn Nhwyn Disgwylfa yn cymryd lle’r rhai yn Nhwyn-y-ffald, Penwyllt .
  • 1840: Gorfodi i Gwmni Tramffordd Fforest Brycheiniog gael ei ddwyn i ben.
  • 1840au: Codi Castell Craig-y-nos.
  • 1841, Ebrill: Archwilio ogof Llygad Llwchwr am y tro cyntaf gan Thomas Jenkins o Landeilo.
  • 1842: Codi Neuadd y Sir, Aberhonddu  – Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog ers 1974.
  • 1845: Sefydlu Gwaith Haearn Banwen
  • 1846, Mehefin: Yn hyfforddi i fod yn naturiaethwr maes, mae Alfred Russel Wallace yn cerdded o Gastell-nedd i Ben y Fan ac yn ôl heibio Sgwd Gwladus a Chwm Porth – yn ddiweddarach mae’n sbarduno Charles Darwin i gyhoeddi ‘On the Origin of Species.
  • c.1850: Diwedd yr ‘Oes Iâ Fechan’.
  • 1851: Agor Rheilffordd Cwm Nedd.  Roedd i ddwyn masnach oddi ar Gamlas Castell-nedd a fyddai’n cau o ganlyniad yn y diwedd.
  • 1854, Hydref: George Borrow yn cofnodi ei daith dros y Mynydd Du yn ‘Wild Wales’.
  • 1857: Sefydlu gwaith Cwmni Powdwr Cwm Nedd ym Mhontneddfechan.
  • 1859: Agor Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr.
  • 1862: Curtis a Harvey yn cymryd Gweithfeydd y Powdwr Du.
  • 1863: Cwblhau Cronfa Pentwyn gan Fwrdd Iechyd Merthyr Tudful.
  • 1869: Cwblhau Rheilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu  rhwng y ddwy dref.
  • 1878: Y gantores opera, Adelina Patti, yn prynu Castell Craig-y-nos.
  • 1884: Sefydlu Glofa Cwm Henllys?
  • 1884: Cwblhau Cronfa Neuadd Isaf gan Gorfforaeth Merthyr Tudful.
  • 1892: Cwblhau Cronfa Cantref  gan Gorfforaeth Caerdydd.
  • 1897: Cwblhau Cronfa’r Bannau gan Gorfforaeth Caerdydd.
  • 1898: Agor Glofa Cwm Henllys?
  • 1900, Awst: Tommy Jones yn diflannu ar ben Cwm Llwch.  Maent yn cael ei goffáu’n ddiweddarach gan obelisg gwenithfaen.
  • 1902: Cwblhau Cronfa Neuadd Uchaf gan Gorfforaeth Merthyr Tudful.
  • 1904,  Mai: Marwolaeth drasig y gŵr ifanc, David John Morgan ar y Mynydd Du, a hynny’n cael ei gofio wedyn yn y gerdd: ‘O’r Niwl i’r Nefoedd
  • 1906, 27 Mehefin: Teimlo Daeargryn Abertawe ar hyd a lled y rhanbarth.
  • 1907: Agor Cronfa Crai.
  • 1912: Jeff ac Ashwell Morgan yn archwilio ogof Dan-yr-Ogof am y tro cyntaf.
  • 1914: Cwblhau Cronfa Ystradfellte gan Gyngor Dosbarth Gwledig Castell-nedd
  • 1919: Diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a sefydlu’r Comisiwn Coedwigaeth gyda’r bwriad o gyflenwi anghenion pren strategol Prydain.
  • 1920: Cwblhau Cronfa Penderyn gan GDG Aberpennar.
  • 1921, Mawrth: Gwerthu Castell Craig-y-nos a’r tir i Ymddiriedolaeth Goffa Genedlaethol Cymru am £11,000 a sefydlu ‘Ysbyty Adelina Patti’ yno i ddioddefwyr twbercwlosis.
  • 1926: Cwmni Ffrwydron Nobel ym Mhontneddfechan yn mynd yn rhan o gwmni Imperial Chemical Industries.
  • 1926: Cronfa Llwyn-onn yn cael ei chwblhau gan Gorfforaeth Caerdydd.
  • 1926: Y Streic Gyffredinol yn cynnwys glowyr ar streic. Peth tir ymylol yn dechrau cynhyrchu eto.
  • 1927: Cwblhau Cronfa Pontsticill gan Gorfforaeth Merthyr Tudful.
  • 1930au: Codi lefel Llyn y Fan Fach i gyflenwi dŵr i Abertawe.
  • 1931, 31 Rhagfyr: Gweithfeydd y Powdwr Du ym Mhontneddfechan yn cau am y tro olaf
  • 1932: Dymchwel a llosgi Gweithfeydd y Powdwr Du ym Mhontneddfechan
  • 1932: Rhoi Castell Carreg Cennen dan warchodaeth Swyddfa Gwaith y Llywodraeth.
  • 1934: Camlas Castell-nedd yn cau yn derfynol – er mai ychydig o drafnidiaeth a fu arni ers blynyddoedd.
  • 1941: Gwneud haearn yn dod i ben yn Ynyscedwyn, Ystradgynlais
  • 1946: Peter Harvey ac Ian Nixon yn darganfod Ogof Ffynnon Ddu, yr ogof ddyfnaf ym Mhrydain, ym mhen uchaf Cwm Tawe. Mae’r adran sy’n hysbys yn 308m/1010 troedfedd o ddyfnder.
  • 1949: Pasio Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad, yn paratoi’r ffordd ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 8 mlynedd yn ddiweddarach.
  • 1950au: Y chwareli Tywod Silica ym Mhal y Cwrt yn cau.
  • 1955: Agor Cronfa Wysg gan EM y Frenhines Elizabeth II
  • 1957: Dynodi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • 1960: Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr yn cau.
  • 1962: Rheilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu yn cau i deithwyr.
  • 1974: Ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn creu (ymysg eraill) siroedd Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg.
  • 1977: Rheilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu yn cau’n derfynol i bob trafnidiaeth.
  • 1980, Mehefin: Rheilffordd Fynydd Brycheiniog yn agor ar ran o hen linell Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr.
  • 1984: Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn prynu 9300Ha o dir comin gan gynnwys llawer o’r Mynydd Du, Fforest Fawr, Cefn Llechid a Mynydd Illtud.
  • 1984-85: Streic genedlaethol y glowyr – digwyddiad o bwys mawr yn hanes Maes Glo De Cymru, yn effeithio ar y cymunedau ar hyd ymyl ddeheuol y Geoparc
  • 1985, 31 Mawrth: Cau’r ysbyty twbercwlosis yng Nghastell Craig-y-nos.
  • 1987, Mawrth: Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn prynu Garn Goch.
  • 1993, Mehefin: Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn prynu’r  Arcffordd (hen linell reilffordd) rhwng Hirwaun a Phenderyn ac yna yn ei datblygu fel llwybr.
  • 1996, Ebrill: Sefydlu awdurdodau unedol newydd ar draws Cymru i gymryd lle’r drefn ddwy haen a oedd yma ers 1974. Mae’r rhain yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
  • 2001: Clwy’r Traed a’r Genau yn dechrau yn Essex ac wedyn yn lledaenu i Gymru, gan gau rhannau mawr o’r Parc Cenedlaethol.
  • 2001, Tachwedd: Pasio Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn y Senedd yn paratoi’r ffordd ar gyfer mynediad agored yng Nghymru 3 ½ o flynyddoedd wedyn.
  • 2005, 28 Mai: Hawl y cyhoedd i gael mynediad agored ar droed ar draws tir comin, mynydd-dir, gweunydd, rhostiroedd a rhosydd cofrestredig yn dechrau yng Nghymru.
  • 2005, Hydref: Fforest Fawr yn mynd yn aelod o Rwydwaith Geoparciau Ewrop a Rhwydwaith Bydeang UNESCO o Geoparciau Cenedlaethol.
  • 2008, Medi: Ail-ddilysu Geoparc y Fforest Fawr yn llwyddiannus.
  • 2012, Medi: Ail-ddilysu Geoparc y Fforest Fawr yn llwyddianus am yr eildro.
  • 2015, Rhagfyr: Fforest Fawr yn mynd yn aelod o Rwydwaith Geoparciau Byd-eang UNESCO newydd.
  • 2016, Gorffennaf: Fforest Fawr yn cynnal ymweliadau ailddilysu am y trydydd tro (ond am y tro cyntaf fel UNESCO Geoparc Byd-eang).
  • 2017, Ionawr: Cyhoeddwyd gan UNESCO fod y Fforest Fawr UNESCO Geoparc Byd-eang wedi bod yn llwyddianus am y trydydd ailddilysu (a elwir yn ‘cerdyn gwyrdd’).