Tramffordd Fforest Brycheiniog

Ymdrech ryfeddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wneud arian o’r bryniau hyn. Aeth y gŵr oedd tu cefn iddi i ormod o ddyled ond rhoddodd inni dreftadaeth sy’n aros.

Yn ymestyn o ben uchaf Cwm Tawe yn y de at Afon Wysg yn y gogledd, nid un dramffordd mohoni yn gymaint â rhwydwaith o dramffyrdd, gyda rhai rhannau heb gael eu gorffen erioed.

Gyda gofal, gellir dilyn ei llwybr ar y map OS graddfa 1:25,000 wrth iddi gyrraedd y Geoparc yng Nghoelbren a nadreddu tua’r gogledd i Benwyllt ac yna yn ei blaen at  Fwlch Bryn-rhudd lle mae’n dechrau mynd ar i waered heibio Crai i Bontsenni.

Dilynir rhannau gan lwybrau troed cyhoeddus, eraill gan lwybrau caniataol ac adrannau eraill wedyn yn mynd drwy dir mynediad agored. Dylid nodi fod sawl rhan arall nad ydynt yn agored i’r cyhoedd ac yn wir llawer er bod mynediad cyfreithiol iddynt sy’n anodd iawn cael atynt oherwydd natur ddyfrlawn a sypwelltog y ddaear.

Y Prif Lwybr

Roedd yr adran a oedd bellaf i’r de yn cael ei dilyn wedyn gan Reilffordd ddiweddarach Aberhonddu a Chastell-nedd ac mae’r llwybr honno yn dileu rhannau o’r dramffordd.

O Benwyllt, mae’r prif lwybr tua’r gogledd eto’n cael ei ddilyn gan linell y rheilffordd er bod ambell i dro tynnach yn cael ei gadw lle roedd rhaid i’r rheilffordd gymryd tro a oedd yn llifo’n well.

Mae ffordd fodern yr A4067 yn dilyn llinell y dramffordd am ychydig cyn y gellir ei gweld yn ysgubo draw tua’r dwyrain, gan ddisgyn yn esmwyth ar hyd y cyfuchlinau i groesi Nant Gyhirych ar gyrion y blanhigfa.

O’r fan hon tua’r gogledd mae’r dramffordd yn dilyn llinell sydd yma ac acw yn cyd-daro â’r rheilffordd ddiweddarach, ac mewn mannau eraill yn rhedeg yn fras gyfochrog â hi. Gellir ei gweld ond at ei gilydd ni ellir ei dilyn. Ei phen draw terfynol yw Fferm Castell-du ym Mhontsenni (mae’r fferm yn breifat ac nid yw ar agor i’r cyhoedd).

Canghennau

Mae braich o’r dramffordd yn gadael y brif linell wrth iddi groesi Nant Gyhirych ac yn dringo’n fwy serth tua’r de na’r brif linell gan fynd wrth draed llethrau Fan Gyhirych a phasio uwchben Bwlch Bryn-rhudd ar ei ffordd i’r chwareli calchfaen ger Pwll Byfre.

Mae cangen fer hefyd yn gadael y brif linell ym Mhenwyllt gan anelu’n serth i fyny’r allt drwy’r hyn sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu a dod i ben yn sydyn ar lethr calchfaen isel. Y bwriad oedd y byddai hon yn cwrdd â’r llinell ym Mhwll Byfre ond daeth y gwaith i ben cyn ei chwblhau.

Dylid gofalu i beidio â drysu rhwng Tramffordd/Tramffyrdd Fforest Brycheiniog a’r tramffyrdd diweddarach a redai rhwng y pyllau tywod silica ym Mhwll Byfre a’r gwaith briciau silica ym Mhenwyllt.