Treftadaeth yr Oes Ddiwydiannol

Mae llawer o arwyddion o ddyn yn ecsbloetio adnoddau Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Mae Hen gysylltiadau cludiant a ddefnyddid i symud cerrig o amryfal fathau o’r Geoparc yn amlwg dros ben. Cyrhaeddodd Camlas Aberhonddu a’r Fenni (Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu erbyn hyn) i Aberhonddu ym 1800. Gellir dilyn llwybr yr hen reilffordd a gysylltai Aberhonddu gydag Abertawe ar hyd Dyffryn Wysg a thrwy bentref Crai wrth iddi gyfeirio am y de drwy Benwyllt i Ystradgynlais a Chwm Tawe.

Mae digonedd o chwareli a adawyd, ceuffyrdd a thomenni gwastraff ar hyd ochrau’r bryniau, yn fwyaf neilltuol pan geir Calchfaen Carbonifferiadd yn dod i’r wyneb.

Mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu dŵr yfed ar gyfer llawer o Dde Cymru. Ceir dwsin o gronfeydd yma ac acw yn y cymoedd. Maent bellach yn rhan sefydlog o’r dirwedd ac mae rhai’n cynnig cyfleusterau ar gyfer mynd mewn cychod a physgota.

O amgylch y cronfeydd dŵr ac mewn mannau eraill, sefydlwyd planhigfeydd conwydd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Unwaith eto mae’r rhain bellach yn cael eu defnyddio gymaint ar gyfer hamdden os nad yn fwy felly nag i gael pren.

Mae gweithgarwch diwydiant yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn ystod y ddwy ganrif a aeth heibio wedi gadael llawer o olion gweledol. Roedd y prif weithgareddau yn cynnwys cloddio a llosgi Calchfaen Carbonifferaidd, ecsbloetio cerrig pwdr mewn pyllau ar yr wyneb a chwarelu a chloddio tywod silica a chwartsit y Grutfaen Gwaelodol (Craig Dinas) o Gyfres Grutfaen Melinfaen. Cloddid glo yn yr Haenau Glo Isaf yn rhan uchaf Dyffryn Aman ac yn ardal Cwm Twrch – Cwm Llynfell. Cynhyrchid ffrwydron diwydiannol ym Mhontneddfechan yn ystod y 19ain a dechrau’r 20fed ganrif.

Mwynhewch eich ymweliad – cadwch eich hun yn ddiogel!

Mae modd i’r cyhoedd gael at lawer o’r safleoedd hyn neu o leiaf eu gweld o’r ffyrdd a’r llwybrau. Dylid cymryd gofal neilltuol bob amser wrth ymweld â hen weithfeydd diwydiannol. Yn benodol, ni ddylai’r ymwelydd achlysurol fyth fynd i mewn i hen dwneli a siafftiau – bydd y rhan fwyaf dan ddŵr neu’n beryglus o ansad neu’r ddau. Gall hen wynebau creigiau fod yn ansad hefyd – cymerwch ofal mawr gyda hwy. Mae’n well edrych arnynt o bell. Mae chwareli sy’n gweithio wrth gwrs yn gwbl waharddedig.