Cerrig Pwdr

Mae cerrig pwdr yn uned o galchfaen tywodlyd a geir yn y cysylltiad rhwng y Calchfaen Carbonofferaidd a Grutfaen Melinfaen ar y Mynydd Du.

Wedi ei hindreulio pwysau pwmis sydd gan y garreg hon ac mae’n malu’n bowdr yn hawdd iawn. Defnyddid y garreg bowdrog yn helaeth fel sgraffinydd ac fel llathrydd yn niwydiannau copr a thunplat De Cymru. Cloddid y cerrig pwdr o byllau bas a’u cludo ar geir llusg neu dramffyrdd.

Gellir gweld olion dull cloddio brig cynnar o weithio’r dyddodion hyn ar ochr y bryn i’r gogledd o Gribarth lle mae darn trionglog o dir yn frith gan dyllau bychain di-rif. Mae gweithfeydd eraill a adawyd i’r gogledd o Gwmllynfell ar lethrau Cefn Carn Fadog.

Roedd gweithio cerrig pwdr wedi dod i ben erbyn y 1930au.