Cloddfeydd Silica ym Mhontneddfechan

Yr ardal o amgylch Pontneddfechan ym mhen uchaf Cwm Nedd yw un o’r ychydig prin yn y byd lle mae tywodfaen wedi ei weithio yn helaeth mewn cloddfeydd dan ddaear. Ond wedyn mae hwn yn fath arbennig iawn o dywodfaen.

Carreg Silica

Ym  muriau serth ceunentydd Nedd Fechan, Afon Mellte a Sychryd mae gwelyau yn y golwg o dywodfaen pur a chaled iawn sy’n dwyn yr enw ‘carreg silica’. Mewn gwirionedd dyma’r isaf o deulu cyfan o welyau o’r fath a elwir gyda’i gilydd yn ‘Rutfaen Melinfaen’ – nid yw grutfaen ond tywodfaen wedi ei ffurfio o ronynnau onglog garw o gwarts neu ‘silica’.

Purdeb y cerrig hyn – bron ym 100% silica (SiO2) – oedd yn eu gwneud yn darged i gloddwyr rhwng y 18fed a’r 20fed ganrif. Roedd diwydiannau De Cymru ddiwydiannol ar eu tyfiant ac angen niferoedd mawr o friciau gwrth-wres i leinio’r ffwrneisi yr oedd copr a haearn yn cael eu toddi ynddynt. Dim ond briciau wedi’u gwneud o silica oedd bron yn bur a allai wrthsefyll y tymereddau dwys heb chwalu.

Câi’r garreg silica ei gweithio drwy gyfres o geuffyrdd – tramwyfeydd cloddio llorweddol wedi eu gyrru i ochr y bryn – y tu cefn i Graig-y-ddinas ac ar bob ochr i Afon Nedd Fechan uwchlaw Pontneddfechan.

Yn y ddau achos roedd tramffyrdd yn cael eu gwthio drwy dir anodd at fynedfeydd y cloddfeydd hyn er mwyn i dramiau a dynnid gan geffylau fynd â’r cerrig i’r gwaith briciau. Codwyd ffatri gynnar gan y Meistri Frederick a Jenner ym Mhont Dinas a sefydlwyd gwaith yn ddiweddarach ym Mhont Walby ger Glyn-nedd.

Cloddfeydd Nedd Fechan

Mae’r dramffordd i fyny ceunant Nedd Fechan bellach yn cynnig mynediad hawdd i gerddwyr. Gellir gweld rhai o’r cerrig gwreiddiol ar wyneb y llwybr, bob un â dau dwll y rhoddid pinnau ynddynt i ddal platiau’r dramffordd. Mae modd gweld tair ceuffordd wrth ochr y llwybr ar lan orllewinol Nedd Fechan. Gall cerddwr sylwgar ddal i weld ategweithiau tair pont a oedd unwaith yn mynd â’r tramffyrdd i geuffyrdd pellach ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Roedd y gloddfa fwyaf ger Afon Nedd Fechan yng Nghwm Gored (OS cyfeirnod grid SN 899087) lle mae adfeilion nifer o adeiladau yn dal i sefyll ymysg y coed. Cadwch draw o’u muriau sy’n gallu bod yn ansad a pheidiwch â cheisio mynd drwy unrhyw un o fynedfeydd y gloddfa. Mae ‘Natural Amenities Ltd’ yn berchen ar hawliau mwynau yn yr ardal rhwng afonydd Sychryd a’r Mellte a Hepste ac felly’r mwyngloddiau eu hunain.

Roedd y dramffordd o’r gloddfa hon a chloddfeydd eraill yn mynd i lawr at Dafarn yr Angel, yn syth o flaen ‘Sgwd Gwladys Lodge’ heddiw ac yna wrth ochr y ffordd ‘B’ fodern i Lyn-nedd.

Cloddfeydd Silica Craig Dinas

Roedd y cloddfeydd y tu cefn i Graig Dinas yn dipyn mwy o faint na’u cefndryd ar hyd Afon Nedd Fechan.  Mae nifer o fynedfeydd mawrion yn dal i’w gweld yn amlwg o’r llwybr sy’n syrthio’n serth o ben Craig Dinas i Afon Sychryd.

Nodwch er eu bod wedi eu lleoli ar dir sy’n dir mynediad y Cyfoeth Naturiol Cymru, ni ddylid mynd yn agos at yr un o’r mynedfeydd hyn oherwydd perygl cerrig yn cwympo.

Roedd yr orielau tanddaearol yn rhai helaeth iawn, yn ymestyn dros ardal o ryw 1000m x 500m.  Mae rhannau o’r gloddfa bellach o dan ddŵr, a bydd eraill bellach yn ansad.

Cludid y deunydd gan gyfres o dramffyrdd ac incleiniau ac yn wir geblau uwchben yn crogi oddi ar beilonau, i lawr y dyffryn ac yna ymlaen i waith briciau Pont Walby. Mae’r hen dramffordd ar hyd ochr ddeheuol Afon Mellte o Graig y Ddinas i Bont-walby yn llwybr ceffylau modern sy’n gadael i chi ddilyn y llwybr ar droed neu ar gefn beic.

Mewn dyddiau diweddarach eid â’r deunydd i waith brics yn Abertawe tan y cafodd y gwaith i gyd ei gau yn y 1960au.