Gweithfeydd y Powdwr Du

Roedd pen Cwm Nedd unwaith yn gartref i ddiwydiant a ddarparai ffrwydron i’w defnyddio ym meysydd glo De Cymru ac yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru. Ychydig sy’n gwybod ei hanes ond mae’n hanes cyfareddol.

Hanes Cryno

Yng nghanol y 19eg ganrif (1857) sefydlodd Cwmni Powdwr Cwm Nedd ei waith powdwr gwn ei hun ym Mhontneddfechan.  Mae’r safle yn ymestyn ar hyd dwy filltir o gwm coediog dwfn Afon Mellte i fyny’r afon o’r pentref.

Dewiswyd y safle hwn oherwydd bod grym dŵr ar gael mor rhwydd, oherwydd ei goed trwchus ac yn wir oherwydd ei fod mor anial, o gofio natur beryglus y gweithgaredd. Roedd y coetir yn ffynhonnell siarcol – cynhwysyn allweddol yn y broses gynhyrchu. Roedd y ddau gynhwysyn arall, solpitar a sylffwr yn cael eu cludo i’r safle ar hyd inclein tramffordd o seidin ar Reilffordd Cwm Nedd fymryn i’r gorllewin o Ben-cae-drain.

Roedd pen isaf y gwaith ar safle a oedd yn cael ei feddiannu cyn hynny gan Waith Briciau Tân Pont Dinas a oedd dan reolaeth y Meistri  Fredericks a Jenner.

Roedd tramffordd gyda cheffylau yn tynnu yn rhedeg ar hyd y safle fel gellid tynnu wagenni rhwng gwahanol adeiladau’r broses. Nodwedd arbennig ar y gweithio hwn oedd rhoi pedolau copr i’r ceffylau i leihau’r tebygolrwydd o godi gwreichion.

Prynwyd y gwaith ym 1862 gan y Meistri Curtis a Harvey a chafodd ei gyfuno’n rhan o Gwmni Ffrwydron Nobel cyn mynd yn rhan o ICI ym 1926.

Ym 1931, ar ôl i’r Swyddfa Gartref dynnu powdwr du oddi ar y ‘rhestr o ffrwydron a ganiateir’, caeodd y gwaith. Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd y cyfan ar dân a chwalwyd llawer o’r adeiladau am resymau diogelwch.

Ymweld â Gweithfeydd y Powdwr Du

Prynwyd y rhan fwyaf o’r safle gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol rai blynyddoedd yn ôl a gellir gweld beth sydd ar ôl o’r hen waith oddi ar rwydwaith o lwybrau troed sy’n rhedeg drwyddo.

Ar hyn o bryd mae prosiect mawr a ariannir gan y Loteri Treftadaeth yn rhedeg i gynnal arolwg, i warchod ac i hyrwyddo’r gwaith yn y pen draw. Yn y cyfamser, mae mynediad cyhoeddus wedi’i gyfyngu’n rhannol.

Mae maes parcio ar gael yng Nghraig Dinas ac mae tai bach a lluniaeth weithiau ar gael yn y Neuadd Gymuned ar gychwyn Llwybr y Powdwr Du ger y cylch troi ym mhen dwyreiniol y pentref.

Darllen pellach

‘The Old Gunpowder Factory at Glyn-neath’ gan Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Merthyr a’r Ardal  (y ‘llyfr gwyrdd’) ar gael am £2.00 o ganolfannau gwybodaeth.