Yr Oes Efydd

(tua 4500 – 2750 o flynyddoedd yn ôl)

Roedd gwellhad yn hinsawdd Prydain o tua 4500 o flynyddoedd yn ôl yn arwyddo dechrau’r Oes Efydd a gysylltid ag amaethyddiaeth yn ymgyrraedd i’r ucheldiroedd ar draul coed gwyllt. Awgrymir y newid hwn yn y gostyngiad graddol ar baill coed a chynnydd mewn paill llyriad a sborau rhedyn mewn creiddiau mawn a gafwyd yn lleol. Mae’n hysbys hefyd fod grawnfwydydd yn cael eu tyfu yn ardal Bannau Brycheiniog.

Dirywiodd yr hinsawdd eto o tua 3000 o flynyddoedd yn ôl gan arwain at gefnu ar ffermio yn yr ucheldiroedd. Lledaenodd mawnogydd ar draws tir amaeth a oedd wedi bod yn gynhyrchiol.

Parhaodd y traddodiad Neolithig o adeiladu cylchoedd cerrig yn amser yr Oes Efydd ond bellach ceid adeiladu’r tomenni claddu o garneddau cerrig sych mawr ar gopaon Mynydd Du a Fforest Fawr.

Mae arfau copr a gwrthrychau eraill wedi’u cofnodi o beth bynnag 4500 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd defnyddio copr ei ddilyn yn fuan gan ddefnyddio efydd. Fodd bynnag, parheid i wneud  a defnyddio arfau cerrig yng Nghymru hyd at tua 3400 o flynyddoedd yn ôl.

Safleoedd yr Oes Efydd

Ymysg y safleoedd yn Geoparc y Fforest Fawr y gwyddys eu bod yn dyddio o’r cyfnod hwn y mae nifer o feini hirion a chylchoedd cerrig. Mae modd i’r cyhoedd gael at y rhan fwyaf ohonynt. Mae’r cyfan yn henebion cofrestredig a dylid cymryd gofal i beidio ag amharu arnynt na’u difrodi mewn unrhyw ffordd.

  • Cylchoedd Cerrig ym Mynydd Bach Trecastell
    (SN 833311)
    Safant ar dir mynediad filltir i’r gogledd o Gronfa Wysg.

  • Troed Rhiw Wen
    (SN 836256)
    Gellir gweld y maen hir hwn o’r llwybr ceffylau cyhoeddus sy’n mynd tua’r gorllewin o Flaenau Uchaf, filltir i’r de o Gronfa Wysg.

  • Cylch Cerrig Cerrig Duon 
    (SN 851206)
    Yn 22 o feini isel i ddechrau, gyda 14 ohonynt bellach ar ôl. Saif ar dir mynediad ychydig i’r gorllewin o’r ffordd gefn rhwng Glyntawe a Threcastell.

  • Maen Hir Maen Llia
    (SN 924192)
    Maen 3.7m o uchder yn agos iawn at Sarn Helen yng Nghwm Llia. Mae llwybr byr yn arwain ato o’r heol gyhoeddus drwy’r cwm. Gwnaed y monolith hwn o Hen Dywodfaen Coch, fel y rhan fwyaf o feini hirion. Math arbennig sydd yma, fodd bynnag, o’r enw ‘clymfaen rhyngffurfiannol’ (gan gynnwys clastau o galcret). Ceir rhagor o feini tebyg ychydig gannoedd o fetrau i’r gogledd; mae’n bosibl mai cyfuniad o iâ rhewlifol, a phobl yn hwyrach ymlaen, a symudodd y maen o’r ardal yna i’w lleoliad presennol.
  • Maen Llia

    Maen Llia

  • Rhes Feini Saith Maen
    (SN 833154)
    Mae dau o’r saith maen yn enw’r heneb hon bellach wedi syrthio. Mae’r safle ar dir mynediad yn union i’r gorllewin o Graig-y-nos ym mhen uchaf Cwm Tawe.

    Saith Maen

    Saith Maen

  • Waen Lleucu
    (SN 854215)
    Monolith Hen Dywodfaen Coch bron i 2m o uchder. Saif ar dir mynediad ychydig i’r dwyrain o’r ffordd gefn rhwng Glyntawe a Threcastell.

  • Cylchoedd Cerrig Nant Tarw
    (SN 818258)
    Ceir dau gylch ac un rhes feini yma ar dir mynediad filltir i’r de o Gronfa Wysg.

  • Y Garn Goch
    (SN 690243)
    Safle ar ben bryn a oedd wedi ei chyfaneddu yn yr Oes Efydd ond a dra-arglwyddiaethir bellach gan adfeilion y gaer ddiweddarach o’r Oes Haearn.