Yr Oes Haearn

(tua 2750 – 2000 o flynyddoedd yn ôl)

Mae haneswyr yn defnyddio’r term ‘Oes Haearn’ i ddiffinio cyfnod olaf cyn-hanes a ddaeth i ben gyda goresgyniad y Rhufeiniaid. Roedd gwybodaeth am weithio haearn wedi cyrraedd Prydain erbyn tua 2750 o flynyddoedd yn ôl. Y dyddiad cynharaf ar gyfer arteffact haearn o Dde Cymru yw 2600 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd yr ymosodiadau ar y coed gwyllt a oedd wedi ymledu ar draws Prydain ar ôl yr Oes Iâ i barhau drwy gydol yr Oes Haearn. Ar ôl clirio’r coed oddi arnynt yn ystod yr Oes Efydd, defnyddid rhostiroedd grug yr ucheldir gan bobl yr Oes Haearn ar gyfer pori cyffredinol. Mae tystiolaeth hefyd am amaethu âr. Yn wir mae’n debyg fod patrwm cyffredinol tirwedd yr ucheldir heddiw wedi ei roi yn ei le bryd hynny.

Mae ein dealltwriaeth o dystiolaeth archaeolegol yr Oes Haearn yn wael. Mae hyn yn rhannol oherwydd diffyg dyddiadau radiocarbon i gofebion mewn caeau. Serch hyn, gall y dechnoleg a ddatblygwyd yn ddiweddar iawn o ddyddio cosmogenig ar wynebau cerrig roi dyddiadau defnyddiol dros ben inni cyn bo hir. Mae hi’n bosibl y gall rhai o’r meini hirion, y carneddau a’r cylchoedd cytiau a hyd yn oed y tomenni llosg o’r Oes Haearn fod yn hŷn. Gall fod y bryngeyrydd cynharaf yng Nghymru ddyddio o’r Oes Efydd.

Bryngeyrydd o’r Oes Haearn yn Nyffryn Wysg

Mae cyfres o geyrydd o’r Oes Haearn ar bennau’r bryniau ar y ddwy ochr i Ddyffryn Wysg i’r gorllewin o Aberhonddu. Gall y cyhoedd gael atynt a disgrifir hwy’n gryno isod.

Pen-y-crug

(Cyfeirnod grid OS:  SO 039303)

Mae’r fryngaer hon o’r Oes Haearn tua 3km i’r gogledd orllewin o Aberhonddu. Mae’r bryn ei hun yn codi at 331m uwchlaw lefel y môr. Mae’n mesur 180m o’r gogledd i’r de a 135m o’r dwyrain i’r gorllewin. Gellir cael at y safle ar droed ar hyd un o ddwy hawl dramwy gyhoeddus sy’n mynd o’r dref neu fel arall ar hyd llwybr byr o gopa’r ffordd gefn sy’n mynd i’r dwyrain o bentref Cradoc.  Mae lle i barcio i ychydig o geir oddi ar y ffordd yma (Cyfeirnod grid OS:  SO 028309). Mae’r holl safle ym mherchnogaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae’n ‘fynediad agored’.

Hefyd o ddiddordeb ar y safle y mae gweddillion hen weithfeydd briciau a theilsiau o Oes Fictoria ar y llethrau dwyreiniol.

Safleoedd cyfagos o’r Oes Haearn:

  • Slwch Tump
  • Coed Fenni-fach
  • Y Gaer

Safleoedd hanesyddol/cyn-hanes cyfagos:

  • Caer Rufeinig Y Gaer

Slwch Tump

(Cyfeirnod grid OS: SO 056284)

Bryngaer o’r Oes Haearn yn syth i’r gogledd o Aberhonddu y gellir cael ati drwy Lôn Slwch sy’n mynd o’r dwyrain i’r gorllewin i’r gogledd i’r safle. Oddi arni mae llwybr cyhoeddus yn dolennu o amgylch tu allan y rhagfur maen/pridd unigol. Mae ei ffurf yn cael ei chuddio fwy gan goed a gwrychoedd na’r gaer gyfagos, Pen-y-crug.

Safleoedd cyfagos o’r Oes Haearn:

  • Pen-y-crug
  • Coed Fenni-fach
  • Y Gaer

Safleoedd hanesyddol/cyn-hanes cyfagos:

  • Caer Rufeinig Y Gaer

Coed Fenni-fach

(Cyfeirnod grid OS: SO 014294)

Caer fechan sydd ar ben bryn coediog 3km i’r gorllewin o Aberhonddu. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw fynediad cyhoeddus i’r safle.

Safleoedd cyfagos o’r Oes Haearn:

  • Slwch Tump
  • Pen-y-crug
  • Y Gaer

Safleoedd hanesyddol/cyn-hanes cyfagos:

  • Caer Rufeinig Y Gaer

Y Gaer

(Cyfeirnod grid OS:  SN 922263)

Mae’r fryngaer hon tua 2.5km i’r de o Bontsenni. Mae hawl dramwy gyhoeddus (Heol Cefn-y-gaer) yn mynd o’r gogledd i’r de heibio’r safle. Mae’r bryn sy’n codi at uchder o 343m wedi ei ffurfio o gerrig llaid a cherrig silt o ffurfiant Llanfocha sy’n cynnwys bandiau niferus o dywodfaen, y mae rhai ohonynt wedi cael eu cloddio.

Safleoedd cyfagos o’r Oes Haearn:

  • Slwch Tump
  • Pen-y-crug
  • Coed Fenni-fach

Safleoedd hanesyddol/cyn-hanes cyfagos:

  • Caer Rufeinig Y Gaer

Twyn y Gaer

(Cyfeirnod grid OS:  SN 990280)

Mae’r fryngaer hon tua 5km i’r gorllewin o Aberhonddu ar ben gogleddol stribyn o dir comin biau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae mynediad agored i’r safle. Mae hawl dramwy gyhoeddus (Heol Cefn-y-gaer) yn mynd o’r gogledd i’r de heibio i’r safle. Mae’r bryn sy’n codi at uchder o 367m wedi ei ffurfio o gerrig llaid a cherrig silt o ffurfiant Llanfocha sy’n cynnwys dau neu dri band o dywodfaen. Gellir gweld crychnodau yn y slabiau a gloddiwyd o’r band uchaf ger y piler triongli sydd ar ben y bryn.

Yn dipyn diweddarach eu tarddiad y mae cyfres o ‘dwmpathau clustog’ ar ochrau de a dwyrain y bryn. Roedd y twmpathau isel hyn wedi eu gosod mewn cysylltiad â magu cwningod mewn canrifoedd diweddar.

Safleoedd cyfagos o’r Oes Haearn:

  • Slwch Tump
  • Pen-y-crug
  • Coed Fenni-fach
  • Y Gaer

Safleoedd hanesyddol/cyn-hanes eraill cyfagos:

  • Caer Rufeinig Y Gaer
  • Ffordd Rufeinig Sarn Helen
  • Meini Hirion a Bedd Gwyl Illtud ar Fynydd Illtud

Darllen pellach

Prehistoric sites of Breconshire’ cyfres Monuments in the Landscape cyfrol 9.  Children G. a Nash G. Logaston Press