Coetiroedd

Mae’r Geoparc yn gartref i amrywiaeth eang o goetiroedd.

Coedwigoedd llydan-ddeiliog yr iseldiroedd

Mae clystyrau bach o goed llydan-ddeiliog yn cynnwys cymysgedd o’r dderwen, y fedwen arian, y fedwen frown a’r onnen ac mae’r wernen yn rhagori ar loriau’r cymoedd. Mae’r clystyrau’n gynefin pwysig ar gyfer ymfudwyr sy’n bridio o Affrica gan gynnwys y siff-saff, y gwybedog brith, y tingoch, telor yr helyg a’r penddu.

Coedwigoedd llydan-ddeiliog yr ucheldiroedd

Mae’r rhain yn ymddangos yn enwedig ar lethrau serth cymoedd ceunentydd y Nedd a’r Fellte ac maen nhw’n cynnwys coetiroedd derwen canopi agos gyda phoblogaethau mwsogl pwysig.

Coedwigoedd Conifferaidd

Cafodd coedwigaeth gonifferaidd ei datblygu ar lethrau a gall ymestyn i fyny at gopaon y bryniau. Mae’r coedwigoedd hyn yn darparu cynefinoedd ar gyfer y gwalch Marthin, y llinos flodiog a’r pila gwyrdd.