Afonydd, llynnoedd a phyllau

Mae nifer o afonydd pwysig yn codi ym mynyddoedd Fforest Fawr fel nentydd sy’n llifo’n gyflym.

Mae gan lawer o’r afonydd hanesion cymhleth, a thorrwyd ar draws eu llifoedd gan rewlifau ar fwy nag un achlysur, gyda’r iâ’n dyfnhau eu cymoedd ac yn dargyfeirio eu cyrsiau. Mae afonydd y Geoparc yn cynnwys:

  • Yn nalgylch Afon Tywi: Afon Sawdde, Afon Gwydderig, Afon Cennen
  • Yn nalgylch Afon Tawe: Afon Twrch, Afon Giedd, Nant Llech
  • Yng ngorllewin y Geoparc: Afon Llwchwr, Afon Aman
  • Yn nalgylch Afon Wysg: Afon Crai, Afon Senni, Afon Tarell, Afon Cynrig
  • Yn nalgylch Afon Nedd: Nedd Fechan, Afon Mellte, Afon Hepste, Afon Pyrddin, Sychryd
  • Mae afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan yn nwyrain yr ardal

Mae nentydd yr ucheldiroedd yn llifo’n gyflym ac mae adar megis pibydd y dorlan a bronwen y dŵr yn gymharol gyffredin.

Mae nodweddion dŵr eraill yn cynnwys nifer o gronfeydd dŵr a llynnoedd rhewlifol bach megis

  • Llyn y Fan Fach,
  • Llyn y Fan Fawr
  • Llyn Cwm Llwch.

Mae’r afonydd a’r llynnoedd hyn hefyd yn darparu cynefinoedd ar gyfer y brithyll brown, eog yr Iwerydd sy’n bwrw grawn, cimwch afon crafanc wen a dyfrgwn.

Mae llynnoedd bach a phyllau’n ymddangos mewn lleoedd megis Mynydd Illtud ac ar Gefn Llechid, weithiau’n digwydd mewn pantiau caregog er bod llawer wedi llenwi yn ystod y milenia i ddod yn gorsydd – sydd yr un mor werthfawr ar gyfer bywyd gwyllt ond sy’n cynnal cymysgedd gwahanol o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid.