Afon Llwchwr

Afon fer ond pwysig a chanddi darddle trawiadol.

Mae Afon Llwchwr yn codi o fewn golwg Castell Carreg Cennen yng ngorllewin pell y Geoparc. Mae’n dod i’r amlwg wedi’i ffurfio’n llawn yn yr atgyfodiad dramatig o’r enw Llygad Llwchwr.

Mae meintiau mawr o ddŵr pur yn dod allan yma o system ogofâu; ni wyddys hyd a lled y system yn llawn er y gwyddys bod dŵr wyneb yn mynd i’r ddaear yn Sinc-ger-y-ffordd wrth ymyl yr A4069 nifer o gilometrau i’r dwyrain yn mynd ar ei ffordd i’r pwynt hwn.

Mae Afon Llwchwr ifanc yn gadael y Geoparc yn Nre-fach ond mae’n parhau hyd at Rydaman lle mae Afon Aman yn ymuno â hi cyn mynd ar ei ffordd i’r môr yng Nghasllwchwr.