Afon Nedd

Mae afon Nedd yn cychwyn wrth i ddyfroedd afonydd Neddfechan a Mellte gwrdd ym Mhontneddfechan. O’r fan honno mae’n llifo i lawr Cwm Nedd i’r môr ym Mae Abertawe. Ceir sawl afon fer ond pwysig o fewn ei dalgylch, gyda nifer fawr o raeadrau yn amharu ar eu llif.

Afon Nedd Fechan

Mae cwrs byr afon Nedd Fechan yn eithriadol o ddiddorol ar ei hyd o fryniau’r Fforest Fawr i Gwm Nedd.

Gan godi ar oddeutu 650m rhwng copaon y Fan Gyhirych a’r Fan Fraith, mae’r afon yn troi i’r de i lifo dros greigiau Hen Dywodfaen Coch cyn diflannu i’r ddaear pan fydd yn cyrraedd band o Galchfaen Carbonifferaidd. Yn fuan wedyn mae’n ailymddangos gan dasgu dros gyfres o ffrydiau a rhaeadrau a ffurfiwyd gan fandiau tywodfaen ymwrthedd o fewn yr hyn a elwid yn draddodiadol yn ‘Gyfres Grut Melinfaen’ (y ‘Grŵp Marros’ heddiw). Y pennaf o’r rhain efallai yw Sgwd Ddwli i lawr yr  afon o Bont Melin-fach.

Mae’r afon yn cyfuno ag afon Hepste ym Mhontneddfechan i ffurfio afon Nedd.

Mae hen dramffordd sy’n rhedeg ar lan yr afon o’r tu ôl i Dafarn yr Angel ym Mhontneddfechan yn rhoi mynediad i’w dyfroedd isaf ac i’w phrif is-afon ar y lan orllewinol, afon Pyrddin. Ar un adeg bu’r dramffordd yn gwasanaethu cyfres o gloddfeydd silica yn y ceunant. Gellir gweld y ceuffyrdd (twneli llorweddol) o hyd ond ni ddylid mynd i mewn iddynt.

Afon Pyrddin

Mae’r afon hon yn darparu dwy o raeadrau gwychaf y Geoparc.

Efallai mai’r afon sydd fwyaf adnabyddus am raeadr ysblennydd Sgwd Gwladus.

Mae’r afon yn codi yng nghanol y cymysgedd o rostir agored a phlanhigfeydd i’r dwyrain o’r Coelbren. Yn y pen draw, mae’n mynd i mewn i geunant lle y ceir y ddwy raeadr, Sgwd Einion Gam a Sgwd Gwladus. Mae’r gyntaf o’r rhain yn anodd mynd ati ond mae’r ail yn un o’r rhai mwyaf hygyrch o sgydau’r ardal ac mae’n werth ymweld â hi.

Mae’r afon yn ymuno â Nedd Fechan ym Mhwll Du ar Byrddin.

Afon Mellte

Dyma afon a all frolio mwy o raeadrau trawiadol nag unrhyw afon arall yn y wlad.

Mae afon Llia ac afon Dringarth yn cyfuno uwchben Ystradfellte i ffurfio afon Mellte sy’n llifo ymlaen ac i lawr i Gwm Nedd lle, wrth ymuno â Nedd Fechan, y genir afon Nedd. Tarddiad blaenddyfroedd afonydd Llia a Dringarth yw ucheldiroedd Hen Dywodfaen Coch y Fforest Fawr.

Afon Hepste

Un o’r ychydig afonydd sydd â llwybr cyhoeddus yn rhedeg oddi tani!

Gan gychwyn fel afon y Waun ar lethrau deheuol y Fan Fawr, mae’r afon yn ymgymryd â’r enw afon Hepste wrth i Nant y Cwrier ymuno â hi. Yn fras, mae’n dilyn cwrs tua’r de-orllewin i’r fan lle mae’n cwrdd ag afon Mellte ond dim cyn iddi blymio dros bistyll enwog Sgwd yr Eira.

Afon Sychryd

Yn fer ond yn anturus – afon fechan sy’n pwnio dros ei phwysau.

Mae Sychryd yn afon fer sy’n codi i’r de o’r Geoparc – dyma’r unig afon mewn gwirionedd sy’n gwneud hynny – gan fynd drwy geunant coediog dwfn i gyfarfod ag afon Mellte ger Craig y Ddinas. Y dafod graig hon sydd wedi’i hamddiffyn gan y clogwyni rhwng y ddwy afon yw safle caer bentir o Oes yr Haearn.

Mae ei darn mwyaf ysblennydd, yn union o dan Graig y Ddinas, yn cael ei arwain gan Gylchfa Ffawtio-Plygu Nedd lle, fel Sgydau Sychryd, mae’n tasgu trwy hafn gul rhwng muriau’r graig. Ychydig islaw’r rhaeadrau, mae’r calchfeini hynod blygedig y Bwa Maen yn ymgodi uwchben ei dyfroedd.

Daeareg ryfeddol

Does fawr o lefydd yn ne Cymru lle mae cynyrfiadau daearegol y gorffennol yn cael eu harddangos mewn ffordd fwy trawiadol nag ar hyd cwrs afon Sychryd. Mae’r brif ran o’r ceunant wedi cael ei cherfio allan gan yr afon ar hyd Ffawt Dinas, lle mae symudiad y creigiau ar bobtu wedi torri band eang o gerrig a’u gwneud yn fwy agored i gael eu herydu gan ddŵr. Ceir o leiaf ddau ffawt cyfochrog arall i’r gogledd o Graig y Ddinas, sydd, ynghyd â’r plygiadau cysylltiedig yn y creigiau, yn cael eu nabod gyda’i gilydd fel Cylchfa Ffawtio-Plygu Nedd. Cylchfa Ffawtio-Plygu Dinas yn y bôn yw’r holl led rhwng waliau syth Craig y Ddinas a’r Bwa Maen ac sy’n cynnwys pob math o blaniau symudiad – arwynebau sydd wedi llithro heibio i’w gilydd yn y gorffennol.

Mae’r trwyn carreg enfawr a elwir yn Fwa Maen yn floc hynod o Galchfaen Carbonifferaidd wedi’i blygu’n dynn. Y gaeaf yw’r adeg orau i’w weld ger pen draw llwybr pob gallu Sychryd pan fydd y llystyfiant wedi darfod.

Un o sawl gwendid hynafol o’r fath yng nghramen y ddaear yn ne Cymru yw Cylchfa Ffawtio-Plygu Nedd. Gellir ei holrhain i’r de-orllewin i lawr Cwm Nedd i Fae Abertawe ac i’r gogledd-ddwyrain trwy Foel Penderyn, Cwm Cadlan ac ymlaen ar hyd y cwm i’r gogledd o Ben y Fâl nes darfod rywle ychydig i’r de o Henffordd. Bu’n weithredol, fwy na thebyg, yn ystod yr Orogenedd Caledonaidd a’r Orogenedd Fariscaidd yn ddiweddarach – bob tro y symudai, byddai daeargryn yn ysgwyd y rhanbarth. Mae orogeni yn gyfnod adeliadu mynydd sy’n gysylltiedig yn gyffredinol a chyfandiroedd sy’n gwrthdaro. Credir y gallai daeargryn Abertawe 1905, gyda’i ganolbwynt ym Mae Abertawe, fod wedi digwydd o ganlyniad i symudiad ar hyd y ffawt hwn.

Treftadaeth ddiwydiannol

Camwch yn ôl ychydig ddegawdau mewn amser, ac roedd y lle hwn yn fwrlwm o ddiwydiant. Cloddiwyd miloedd o dunelli o graig solet o ddwy ochr ceunant afon Sychryd gan adael crwybr mêl o geudyllau o dan y llethrau coediog. Erbyn hyn, gall cerddwyr sy’n crwydro’r llethrau serth hyn ddod ar draws rhai o’r mynedfeydd lu i’r ceudyllau hyn.

Peidiwch â chael eich temtio i fynd i mewn i’r hen gloddfeydd gan eu bod yn beryglus – ceir cwympiadau serth yn y tywyllwch gyda rhannau bellach o dan ddŵr ac mae’r to wedi cwympo mewn rhai mannau.

Roedd y mwynwyr yn chwilio am ‘rut gwaelodol’ creigiau cyfres Grut Melinfaen – band o graig sy’n arbennig o galed a elwir heddiw yn ‘Dywodfaen Twrch’ ond byddent wedi cyfeirio ati fel ‘carreg silica’ achos mai dyna beth oedd hi – yn 98% silica pur (silicon deuocsid neu Si02) a adwaenir fel arall yn gwarts. Unwaith iddi gael ei malu’n bowdr a’i hailsiapio ar ffurf brics, byddai’n cael ei danio mewn odyn i ffurfio brics gwrthsafol neu frics tân a ddefnyddid i leinio ffwrneisi smeltwyr haearn a dur y de Cymru ddiwydiannol. Gelwid y brics hyn yn ‘Frics Dinas’ ac yn un o’r gwledydd  o leiaf yr allforid y briciau hyn iddi – Rwsia – daeth y gair ‘dinas’ i olygu ‘bricsen dân’.

Byddai rhaffordd awyr yn ymestyn yn uchel dros geunant Sychryd gan gario’r talpiau o’r garreg a gloddiwyd i lawr i Graig y Ddinas.  O’r fan honno fe’u cludid i’r gwaith brics ym Mhontwalby. Byddai system o dramffyrdd hefyd yn cael ei defnyddio yn yr ardal i gludo’r deunydd o’r cloddfeydd.  Cysylltid y tramffyrdd uwchlaw ac islaw prif raeadr Sychryd gan ramp serth a gynhelid gan bileri haearn. Mae bonion y pileri hyn i’w gweld hyd heddiw.

Terfyn hynafol

Mae’r afon yn ffurfio rhan o’r terfyn rhwng ardaloedd awdurdodau lleol Powys a Rhondda Cynon Taf yn ein hoes ni. Cyn 1974, hon oedd y ffin hynafol rhwng siroedd Brycheiniog i’r gogledd a Morgannwg i’r de. Yn ystod oesoedd cynharach byth, roedd yn dynodi ymyl brenhiniaeth Brycheiniog a Glywysing (Morgannwg yn nes ymlaen). Er 1957 dyma ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a hefyd, er 2005, hon yw ffin Geoparc y Fforest Fawr.

Mwynhewch!

Mae Llwybr Pob Gallu Sychryd yn dilyn rhannau isa’r afon o faes parcio Craig y Ddinas cyn belled â’r Bwa Maen a Sgydau Sychryd. Mae’r llwybr yn dilyn cwrs hen dramffordd gynt a fu unwaith yn gwasanaethu Cloddfa Silica Dinas.