Afon Tywi

Mae Afon Tywi yn Dyffryn Tywi, Sir Gaer.

Afon Cennen

Mae’r afon yn dechrau ar y rhiwiau gogledd o Mynydd Du.

Afon Gwydderig

Is-afon sylweddol Afon Tywi ar ymyl gogleddol y Geoparc.

Mae’r afon yn dechrau ei bywyd fel Nant Gwydderig ar lethrau de-orllewinol Mynydd Epynt. Mae’n troi’n sydyn i’r gorllewin yn Llywel ac yn fuan mae’n mynd i gwm dwfn wedi’i dilyn gan ffordd yr A40. Fwy na thebyg cafodd y ceunant coediog hwn, sy’n gwahanu tir uchel yr Epynt o dir y Mynydd Du ei dorri gan ddŵr tawdd rhewlifol yn ystod oes yr iâ.

Mae Afon Gwydderig yn ymuno ag Afon Bran yn Llanymddyfri ac mae cyfuniad o’u dyfroedd yn mynd i mewn i Afon Tywi yn fuan wedyn.

Afon Sawdde

Afon sydd â chysylltiadau mytholegol

Tarddle Afon Sawdde yw Llyn y Fan Fach, y darn o ddŵr sy’n gysylltiedig â chwedl ‘morwyn y llyn’.  Mae ei dyfroedd yn syrthio’n serth i lawr i 250 metr/800 troedfedd i Gwmsawdde ar eu ffordd i gwrdd â rhai Afon Tywi yn Llangadog.

Lle mae’r afon yn torri trwy gyfres o dywodfeini Silwraidd a Defonaidd caled mae wedi ffurfio ceunant cul, wedi’i ddatblygu orau am yr hanner milltir / 1 cilometr i lawr yr afon o Bont-ar-llechau wrth ymyl yr A4069.  Datganwyd bod darn hwn y cwm yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y darn sydd bron yn gyflawn – ac yn bendant yn ddigon agored drwy gerrig Silwraidd y rhanbarth.