Afon Wysg

Yr hiraf o’r afonydd yn y Geoparc, mae Afon Wysg yn arbennig o bwysig fel hafan ar gyfer bywyd gwyllt.

Cafodd hyd gyfan yr afon i lawr yr afon o Gronfa Ddŵr Wysg ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig.  Mae’r dynodiad yn cydnabod ei phwysigrwydd o ran amrywiaeth o rywogaethau pysgod – tair rhywogaeth o lamprai, y wangen, bawd y melinydd ac eog yr Iwerydd.  Mae hefyd yn bwysig oherwydd ei phoblogaeth o ddyfrgwn.

Ond ychydig o ddatblygu sydd ar ei hyd, mae ansawdd dŵr Afon Wysg yn uchel ac mae ymyrraeth gan ddyn yn gymharol brin. Mae’r dynodiad yn ymestyn i’r rhan fwyaf o’i hisafonydd, sy’n gwneud y dalgylch yn un gwerthfawr iawn i fywyd gwyllt Cymru.

Mae’r afon yn codi fel nant fach yn Waun Lwyd rhyw 500 metr i fyny ar ochrau gogleddol y Mynydd Du.  Yn llifo i’r gogledd, yn fuan mae’n mynd i mewn i Gronfa Ddŵr Wysg, a gafodd argae yn 1955 er mwyn cyflenwi dŵr i Abertawe.  Mae’r afon sy’n dod allan yn llifo i’r dwyrain trwy Gwmwysg, gan fynd heibio i Drecastell, Pontsenni a Llansbyddid cyn cyrraedd Aberhonddu. Mae ei chwrs yn troi i’r de-ddwyrain wrth iddi adael Geoparc y Fforest Fawr ar y ffordd i’r Fenni, Brynbuga ac, yn y pen draw, i’r môr yng Nghasnewydd.

Yn ystod rhan o’i chwrs mae gan yr afon wely carregog o dywodfeini a cherrig llaid Ffurfiant Llanfocha.  Mae rhannau eraill o gwm Wysg wedi’u llenwi â thywod a gro afon a chyda dyddodion rhewlifol.

Yn wir, mae’r oesoedd iâ wedi peri i’r afon newid ei chwrs yn sylweddol o leiaf unwaith neu ddwywaith.  Yn Aberhonddu tybir bod fersiynau cynharach o Afon Wysg yn llifo i’r gogledd o’r llwybr presennol o Aberyscir trwy Gradoc ac i’r gogledd ac i’r de o Ben-y-crug ar wahanol adegau.

Afon Crai

Isafon ar lan deheuol Afon Wysg

Mae Afon Crai yn codi fel Blaen-crai ar flaen y prif gwm sy’n rhwyllo ucheldiroedd Fforest Fawr i’r gorllewin o Fan Gyhirych. Cafodd ei estyniadau uwch eu hatafaelu ym 1907 gan Gorfforaeth Abertawe fel Cronfa Ddŵr Crai er mwyn cyflenwi dŵr i’r poblogaethau i’r de. Felly caiff rhywfaint o’i dŵr ei ddargyfeirio drwy dwnnel i mewn i Gwm Tawe.

I lawr yr afon o’r gronfa ddŵr mae Afon Crai’n llifo heibio Felin-crai drwy Gwm Crai i ymuno ag Afon Wysg ychydig o filltiroedd i’r gorllewin o Bontsenni.

Afon Cynrig

Draenio llethrau gogleddol y Bannau Canolog.

Mae dyfroedd Nant Sere a Nant Cynwyn yn cyfuno i ffurfio Afon Cynrig. Mae’r afon yn llifo i’r gogledd i ymuno ag Afon Wysg yn syth i’r dwyrain o Aberhonddu. Yn Abercynrig mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu deorfa eogiaid yn ymyl yr afon.

Afon Senni

Yr afon a lwyddodd o drwch blewyn i osgoi cael ei chipio.

Yn codi fel Blaen Senni yn y pant rhewlifol dwfn i’r gogledd o Fan Nedd, mae’n cyrraedd pentrefan Heol Senni drwy gwrs troellog trwy gwm llydan â gwaelod gwastad.  Denodd y basn enfawr hwn sylw peirianwyr dŵr yn y 1960au ond ni wnaeth y cynigion ar gyfer argae yma a fyddai wedi gorlifo’r pentref erioed ddwyn ffrwyth.

Mae’r afon yn mynd i mewn i Afon Wysg ychydig i lawr yr afon o’r groesfan sy’n rhoi enw Pontsenni iddi.

Afon Tarell

Y fwyaf o isafonydd glan deheuol Afon Wysg.

Yn codi ger Storey Arms, mae’r afon yn llifo i’r gogledd ac i’r dwyrain drwy Glyn Tarell, heibio pentref Libanus, ac yn ymuno â dyfroedd Nant Cwm Llwch a Nant Gwdi cyn ymuno ag Afon Wysg ar ymyl gorllewinol Aberhonddu.