Ardaloedd o Galchfaen

Tirwedd a nodweddir gan glogwyni naturiol, wynebau chwarel, brigiadau carreg, palmentydd calchfaen a glaswelltir calchaidd.

Calchfaen Carbonifferaidd

Mae’r clogwyni’n cynnal llawer o rywogaethau planhigion prin gan gynnwys tair rhywogaeth o’r gerddinen wen a geir ym Mannau Brycheiniog yn unig.  Maent hefyd yn darparu safleoedd nythu ar gyfer yr hebog tramor.

Mae’r palmentydd calchfaen a’r glaswelltir calchaidd yn cynnal fflora sy’n cynnwys crydwellt, aurfanadl flewog, yr hesgen feddal, tormaen llydandroed a chennau.

Gellir dod o hyd i rai o’r systemau ogofâu mwyaf ym Mhrydain o fewn y Geoparc. Roedd y rhain yn rhoi cysgod i eirth, ych gwyllt a cheirw yn y gorffennol ond ar hyn o bryd cânt eu defnyddio gan ystlumod pedol lleiaf (a moch daear?) yn unig.

Tarddellau Twffa

Mae tarddlinau’n digwydd ar lethrau lle mae tywodfeini Defonaidd a Namuraidd a Chalchfeini Carbonifferaidd yn gorwedd dros gerrig llaid anhydraidd.  Mewn ardaloedd chwarela calchfaen lle bo’r tarddellau hyn yn llifo trwodd ac yn toddi calsiwm carbonad o domennydd gwastraff a grëwyd gan losgi calch, caiff gwelyau nentydd a phyllau o ddŵr sy’n sefyll eu gorchuddio gan haenau o  dwffa a ffilmiau o cyanobacteria.  Mae enghreifftiau prin o’r stromatolit dŵr croyw Rivularia yn ymddangos ar gerrig crwn a chlogfeini mewn tarddellau calchfaen dilwgr naturiol.