Hinsawdd

Mae Geoparc y Fforest Fawr yn cael gaeafau sy’n gymharol fwyn a hafau sy’n gymharol oer. Mae llawer o law yn ystod misoedd y gaeaf a hefyd mae’n dueddol o lawio mwy po uchaf yr ewch.

Mae ardaloedd ucheldirol y Geoparc yn arbennig o agored i’r gwynt ac yn wir i dymereddau isel.  Mae cyfeiriad pennaf y gwynt o’r gorllewin er yn lleol caiff y gwyntoedd eu sianelu gan gymoedd a bylchau.

Mae’r hinsawdd hon yn arwain at dymor tyfu blynyddol hir sy’n amrywio rhwng 240 a 320 o ddiwrnodau er ei fod yn fyrrach yn ardaloedd uchaf y Geoparc.

Mae’r pridd yn gymedrol wlyb ac yn wir weithiau maent yn ddyfrlawn.  Mae’r ffaith hon a natur lethrog serth lawer o’r tir yn gwneud porfa’n syniad gwell ar gyfer ffermio na thyfu grawnfwydydd a chnydau eraill.

Disgwylir i newid yn yr hinsawdd a achosir gan ddyn gael effaith ar yr ardal.  Gellir disgwyl i law gaeaf trymach a stormydd gwaeth gynyddu erydu llechweddau yn arbennig lle mae gorbori wedi lleihau’r llystyfiant.  Hefyd disgwylir i lai o eira a rhew oherwydd tymereddau mwynach yn ystod y gaeaf gael effaith ar gymunedau planhigion.