Creigiau a daeareg y Geoparc

Mae wedi cymryd dros 470 miliwn o flynyddoedd i wneud y dirwedd hon. Mae creigiau’r Geoparc yn rhoi tystiolaeth o gefnforoedd blaenorol – sydd wedi hen fynd erbyn hyn, o anialwch, o fynyddoedd sydd wedi codi a chwympo dros oesoedd ac o fywyd hynafol – sydd bellach yn ffosilau sydd wedi’u claddu mewn cerrig.

‘Y presennol yw’r allwedd i’r gorffennol.’

o ‘The Founders of Geology’ gan Syr Archibald Geikie 1905

Mae cipolwg ar y map daearegol yn datgelu cyfres o fandiau lliw sy’n ymestyn dros yr ardal. Mae pob band yn cynrychioli math gwahanol o graig, wedi’i ffurfio ar adegau gwahanol mewn hanes daearegol.

Map daearegol o Geoparc

Map daearegol o Geoparc

Mae un band o’r fath (porffor ar ein map) yn dangos ble y gellir canfod y creigiau hynaf yn y Geoparc – mewn llain cefn gwlad rhwng Llandeilo a Llanymddyfri – maent yn perthyn i’r cyfnod Ordofigaidd. Ychydig i’r de ohonynt (band pinc), mae creigiau tebyg o’r cyfnod Silwraidd sy’n gorwedd o dan lleoedd megis Mynydd Myddfai a Garn Goch.  Mae’r creigiau hyn yn dilyn mynd a dod moroedd ar draws canolbarth Cymru.

Mae’r band lletaf (brown a llwydfelyn) sy’n mynd o un pen i’r Geoparc i’r llall yn dangos yr ‘Hen Dywodfaen Coch’- o oes Defonaidd yn bennaf – y cofnod o ddinistrio cadwyn o fynyddoedd o faint mynyddoedd Himalaya a oedd wedi codi i’r gogledd o’n hardal ni.

Ymhellach i’r de, mae band culach o galchfaen (glas golau) yn arwain at dirwedd arbennig iawn uwchben y tir ac oddi tano. Mae’n dyddio o’r cyfnod Carbonifferaidd ac yn datgelu moroedd trofannol bas.  Yn ei dro, mae ‘Tywodfaen Twrch’ (neu ‘Grutfaen Melinfaen’) (gwyrdd golau) – sef y gronynnau cwarts a gludwyd yma gan afonydd o’r gogledd – yn ei orchuddio.

Yn olaf, ar hyd ymyl ddeheuol y Geoparc, mae’r Haenau Glo (llwyd a gwyrdd tywyll) yn ymddangos gyda’u cerrig llaid, tywodfeini ac wrth gwrs, eu gwythiennau glo.

Mae pob un o’r haenau hyn wedi’u ffawtio a’u plygu ers eu ffurfio, ac yn aml, maent yn cael effeithiau trawiadol ar y diwedd.

Etifeddiaeth Oes yr Iâ

Byddai presenoldeb yr holl ffurfiannau creigiau hyn ar eu pennau eu hunain yn ddigon diddorol ond mae hinsawdd prysur gyfnewidiol y ddwy filiwn o flynyddoedd diwethaf wedi ychwanegu dimensiwn arall. Mae nifer o oesoedd iâ wedi arwain at gerfio’r craigwely drwy rew, cerfio’r cymoedd gyda dŵr tawdd a dyddodi darnau erydog fel marianau.

O ystyried hyn oll, mae’r etifeddiaeth ddaearegol gyfoethog hon yn gwneud ardal gyfoethog i’w gweld p’un a ydych yn arbenigwr neu fod gennych ddiddordeb mwy achlysurol.