Beth sy’n digwydd

Yn 2022 unwaith eto yn dod â theithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau eraill i chi unwaith eto i’w mwynhau trwy gydol y flwyddyn yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr .


Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr sy’n cymryd lle ym mis Mai/Mehefin bob blwyddyn gyda theithiau cerdded, darlithoedd ac arddangosfeydd. Mae’n dychwelyd yn 2022 ar ôl seibiant.



Byddwn yn cymryd rhan yn y Diwrnod Geoamrywiaeth Rhyngwladol cyntaf un ar ddydd Iau 6 Hydref 2022. Bydd y fenter UNESCO hon yn dathlu’r ystod ryfeddol o nodweddion daearegol sy’n cael eu harddangos ar y Ddaear. Mae gennym ni ein cyfran deg yng Nghymru – un o’r lleoedd mwyaf geoamrywiol ar y blaned. Byddwn yn agor Labordy Dysgu Geoparc ym Mharc Gwledig Craig-y-nos ar y 6ed o Hydref. Ymunwch
â ni rhwng 10am a 3pm


Efallai bydd gennych ddiddordeb yn:

  • Mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae grwpiau megis Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru hefyd yn cynnal ystod o weithgareddau, a leolir yn aml o gwmpas eu gwarchodfeydd.
  • Mae yna deithiau cerdded gyda thema ddaearegol wedi’u cynnwys yng Ngŵyl Gerdded Crucywel – er bod y rhan fwyaf o’r teithiau cerdded yn rhan ddwyreiniol y parc cenedlaethol, mae rhai teithiau o fewn y Geoparc. Mae yna hefyd weithiau ‘Autumn Walking Weekend’ byrrach sy’n cael ei redeg gan drefnwyr y Gŵyl Gerdded Crucywel.
  • Ar ein stepen drws deheuol, cynhelir Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru bob blwyddyn ac mae’n rhannu rhai themâu cyffredin o ran daeareg, archeoleg a diwydiant.
  • Hefyd mae grŵp de Cymru Cymdeithas y Daearegwyr yn cynnal cyfarfodydd yn y Geoparc yn achlysurol.
  • Mae’r gymdeithas Gymraeg ar gyfer astudiaethau natur,  Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru gan gynnwys nifer yng nghyffiniau’r Geoparc.

Sylwer bod y rhestr uchod yn cynnwys teithiau cerdded/digwyddiadau a gynhelir yn y Geoparc ond heb eu cynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Nid yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am waith y sefydliadau eraill hyn felly eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch cyn i chi gymryd rhan mewn unrhyw un o’r rhain.