Hanes daearegol y dyfodol

Disgwylir i brosesau naturiol a dylanwad pobl newid hanes Cymru yn y dyfodol ac, yn wir, dyfodol Geoparc y Fforest Fawr.

Yn y tymor byr, ymddengys mai newidiadau o ran hinsawdd Cymru yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael effaith ar y dirwedd hon.

Cymru wlypach a chynhesach

Mae arbenigwyr hinsawdd yn rhagweld Cymru wlypach a chynhesach dros yr ychydig ddegawdau nesaf gyda llawer o’r glaw’n disgyn yn drymach o’i gymharu â chyfnodau diweddar. Byddai llifogydd mwy o faint ac amlach yn effeithio ar yr amgylchedd adeiledig – ar ble rydym yn byw ac yn gweithio a sut rydym yn teithio.

Gall glaw trwm gael effaith barhaol ar y dirwedd naturiol hefyd wrth i lethrau sy’n rhy wlyb fethu’n syfrdanol – cafwyd nifer o dirlithriadau bach yn y Geoparc yn ystod glaw trwm ddechrau mis Medi 2008.

Y disgwyl yw y bydd llai o ddiwrnodau o rew ac eira – mae’r rhain eisoes wedi gostwng yn sylweddol dros yr hanner can mlynedd ers canol yr 20fed ganrif. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar lystyfiant (rhannol-)naturiol yr ucheldiroedd.

Nwyon tŷ gwydr a’r ddaear

Byddai byd cynhesach, oherwydd lefelau uwch o garbon deuocsid yn yr amgylchedd, yn cael effeithiau gwahanol yn fyd-eang, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae gogledd-orllewin Ewrop yn un o’r rhanbarthau hyn y disgwylir iddo ar hyn o bryd ddianc rhag yr effeithiau hyn.

Y disgwyl yw mai’r rhanbarthau pegynnol fydd yn cynhesu gyflymaf – tuedd y mae ei heffeithiau eisoes i’w gweld yn sylweddol yn yr Arctig uchel. Mae’r goblygiadau ganrifoedd cyn i rannau mawr o gapiau rhew’r Ynys Las a’r Antarctig doddi oherwydd tymereddau uwch yn erchyll. Byddai darfodiad cap rhew’r Ynys Las yn arwain at lefelau moreoedd o amgylch y byd yn codi oddeutu 7m. Byddai darfodiad llwyr llen iâ yr Antarctig yn ychwanegu rhyw 65m arall at y cynnydd hwnnw! Nid yw’r naill cap rhew na’r llall yn nodwedd barhaol ar wyneb y ddaear. Yn ôl y rhagfynegiadau diweddaraf gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), ni ddisgwylir i hyn ddigwydd am gryn amser eto!

Atgyfodiad yr iâ?

Nid oes unrhyw reswm dros gredu nad ydym yn byw mewn cyfnod rhyng-rewlifol ar hyn o bryd. Mae cyfres o gyfnodau oer a chynnes cyfnewidiol dros y ddwy filiwn o flynyddoedd diwethaf neu fwy wedi digwydd ac, yn unol â hynny, gellid disgwyl i’r cyfnod cynnes presennol arwain at oes iâ arall ymhen ychydig filoedd o flynyddoedd. Ymddengys, p’un a fydd hyn yn digwydd ai peidio, fod hyn yn dibynnu ar ba effeithiau y mae gweithgarwch dynol yn parhau i’w cael ar hinsawdd y byd.

Y rhagolygon ar gyfer y dyfodol

Dros y 600 miliwn o flynyddoedd diwethaf, mae Ynysoedd Prydain wedi teithio dros filoedd o filltiroedd yn ymyl pegwn y de i gyrraedd eu lledred presennol. Disgwylir i’r symud tua’r gogledd barhau yn y dyfodol.

Mae Môr yr Iwerydd yn parhau i ymledu fesul ychydig o gentimetrau bob blwyddyn ac, yn y tymor hir iawn, bydd hyn yn dod i ben. Fel mae pob cefnfor blaenorol wedi gwneud, bydd yn dechrau cau. Gallai ardal islithrio ymsefydlu oddi ar arfordir Ynysoedd Prydain a gallai gweithgarwch folcanig ddod yn nodwedd yn y rhanbarth hwn unwaith eto.

Pen y daith

Yn y pen draw, bydd calon gwresog mewnol y Ddaear yn dod i ben. Wrth i gelloedd darfudol ym mantell y Ddaear ddarfod, felly hefyd y bydd prosesau platiau tectonig sydd wedi tanategu datblygiad y blaned dros fwy na 3000 miliwn o flynyddoedd yn dod i ben a bydd yn platiau’n ‘cloi’.

Ni chaiff rhagor o gadwyni o fynyddoedd eu hymgodi wrth i gyfandiroedd beidio â gwrthdaro a bydd tirwedd y ddaear, ymhen amser, yn dod yn fwyfwy prin. Gwrthdrawiad â bodau allddaearol fydd y prif ffactor newid; a dyna’n union sy’n digwydd ar y lleuad ac ar blaned Mawrth heddiw lle nad yw gweithgarwch platiau tectonig yn parhau i adnewyddu wynebau’r bydoedd hynny.

Tynged ein haul yn y tymor hir fydd chwyddo i ddod yn seren ‘goch enfawr’ a bryd hynny, caiff cefnforoedd y ddaear eu berwi i ebargofiant, ynghyd, ymhen amser byr, â’r gramen greigiog ei hun. Y cyfan fydd ar ôl fydd gweddillion rhuddedig heb fywyd na gweithgarwch. Ond ymhen biliynau o flynyddoedd mae hynny, felly am y tro, beth am i ni fwynhau’r blaned ddeinamig a swynol rydym yn byw ynddi heddiw!