Y Cyfnod Cambriaidd

(539 – 485 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Ni chredir bod unrhyw greigiau o’r oes hon i’w gweld ar yr wyneb o fewn Geoparc y Fforest Fawr ond mae’n bosibl eu bod yn bodoli’n ddwfn yn y ddaear.

Mae’r brigiadau agosaf o greigiau Cambriaidd yn Sir Benfro, mewn mannau yn ne Swydd Amwythig ac o fewn Bryniau Moelfryn ryw 50 milltir i’r dwyrain oddi yma.

Beth sydd mewn enw?

Mae’r cyfnod wedi’i enwi ar ôl ‘Cambria’ – sef yr enw clasurol am Gymru lle y cafodd creigiau o’r oes hon eu hastudio’n fanwl am y tro cyntaf.