Calchfaen Carbonifferaidd

Creigiau hynaf y Cyfnod Carbonifferaidd

Calchfaen Carbonifferaidd
Calchfaen Carbonifferaidd

Y creigiau isaf ac felly’r creigiau hynaf o’r cyfnod Carbonifferaidd yw Calchfeini Carbonifferaidd sy’n ffurfio llain 1-3km o led yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain ar draws llethrau deheuol Y Mynydd Du a Fforest Fawr. I’r dwyrain, a chyda Chylchfa Ffawtio-plygu Cribarth i’r de, mae llain gul arall o galchfaen sy’n rhedeg o Bontneddfechan drwy Benderyn i Bontsticill. Mae’r calchfaen, sy’n amrywio o ran lliw o wyn, llwyd i ddu, yn cynnwys olion ffosiledig cwrelau a chregyn môr a ddyddodwyd ar waelod moroedd bas rhwng 359 a 328 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r calchfaen yn llawn ceudyllau – mewn gwirionedd, mae’r ardal yn gartref i rai o’r rhwydweithiau ogofâu mwyaf helaeth ym Mhrydain ac, yn wir, yn Ewrop.

Haenau creigiau Disgrifiad Trwch yn fras
Calchfaen Llandyfan Calchfaen gydag ychydig o siâl a thywodfaen 0-45 m
Calchfaen Cil-yr-ychen calchfaen 50-100 m
Gronellfaen Abercriban calchfaen 25-30 m
Siâl Calchfaen Isaf Siâl gydag ychydig o galchfaen a dolomit 15-25 m