Haenau Glo

Y creigiau ieuengaf o’r cyfnod Carbonifferaidd

Creigiau Westffalaidd

Mae creigiau o’r oes Westffalaidd i’w cael ar hyd ymyl ddeheuol y Geoparc.

Roedd coedwigoedd corsiog trwchus yn cynnwys rhawn y march mawr a rhedyn yn ffynnu yn awyrgylch llawn ocsigen yr oesoedd Westffalaidd. Mae toreth o olion ffosiledig i’w gweld ar ffurf gloeau, cerrig llaid a thywodfeini sydd gyda’i gilydd yn gwneud Haenau Glo De Cymru. Yn draddodiadol, cânt eu rhannu yn dair uned, ac o’r rhain dim ond y ddwy hynaf (Haenau Glo Isaf a Chanol) sydd i’w cael yn y Geoparc.

Mae sylfaen Haenau Glo Isaf De Cymru wedi’i diffinio gan y Garreg Ddiffaith, sef tywodfaen trwchus sydd i’w gael yn eang ar draws y maes glo. Ond, mewn gwirionedd, nifer o dywodfeini gwahanol sydd yma, pob un ar yr un haenen yn olyniaeth y creigiau. Daw’r enw unigryw o weithgareddau mwynwyr a oedd yn chwilio am haearnfaen. Wrth gyrraedd y lefel hon, ni chaent unrhyw lwyddiant pellach gan nad oedd unrhyw fwyn haearn yn gorwedd o dan yr haenen hon. Dechreuodd glowyr ddefnyddio’r term hefyd gan ei fod yr un mor berthnasol i wythiennau glo.

Y Garreg Ddiffaith
Y Garreg Ddiffaith

Mae’r Garreg Ddiffaith wedi’i dangos mewn gwyrdd ar y map hwn.

O fewn yr Haenau Glo Uchaf, Tywodfeini Pennant sy’n ffurfio’r sgarp sy’n wynebu’r gogledd y tu hwnt i ffin ddeheuol y Geoparc. Gellir mwynhau golygfeydd ardderchog dros ymyl ddeheuol y Geoparc o’i brig. Mae’r maes parcio oddi ar yr A4061 uwchben yr adran fachdro yn fan arbennig o dda i fwynhau’r golygfeydd.

 

Haenau creigiau Disgrifiad Trwch yn fras
Haenau Glo Uchaf  (Haenau Pennant) Tywodfeini a cherrig llaid gyda gwythiennau glo  hyd at  600 m
Haenau Glo Canol Cerrig llaid gyda gwythiennau glo hyd at 360 m
Haenau Glo Isaf Cerrig llaid gyda gwythiennau glo hyd at  240 m