Llinell amser Carbonifferaidd

Mae daearegwyr yn rhannu’r cyfnod pwysig hwn yn ddarnau hwylus. Gwnaeth y cyfnod Carbonifferaidd bara o 359 i 299 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Y Cyfnod Carbonifferaidd

Roedd y cyfnod hwn yn ymestyn dros 60 miliwn o flynyddoedd. Caiff ei rannu yn ddwy gyfres/dau gyfnod a chaiff y rhain eu hisrannu ymhellach yn gyfnodau/oesoedd. Yn rhyfedd iawn, mae’r Cyfnod Carbonifferaidd wedi’i rannu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol yn y gorffennol felly mae llawer o dermau eraill yn parhau i gael eu defnyddio’n aml. Yn draddodiadol, mae daearegwyr Americanaidd wedi ymdrin â’r cyfnod Pennsylvanaidd a’r cyfnod Mississippiaidd fel cyfnodau arunig ynddynt eu hunain.

  • Cyfnod Pennsylvaniaidd (323Ma – 299Ma)
    • Cyfnod Gzhelianaidd (304Ma – 299Ma)
    • Cyfnod Kasimoviaidd (307Ma – 304Ma)
    • Cyfnod Moscoviaidd (315Ma – 307Ma)
    • Cyfnod Bashkiriaidd  (323Ma – 315Ma)
  • Cyfnod Mississippiaidd (359Ma – 323Ma)
    • Cyfnod Serpukhoviaidd (331Ma – 323Ma)
    • Cyfnod Viséanaidd (347Ma – 331Ma)
    • Cyfnod Tournaisiaidd (359Ma – 347Ma)

Ma = miliwn o flynyddoedd yn ôl