Y Cyfnod Defonaidd

(419-359 miliwn o flynyddoedd yn ôl) 

Y stori fawr . . .

Ffurfiwyd tirwedd dros hanner y Geoparc o greigiau o’r oes Ddefonaidd pan oedd yr ardal yn sefyll o fewn cyfandir enfawr a phoeth Pangaea.

Cafodd cadwyn enfawr y Mynyddoedd Caledoniaidd a ffurfiwyd i’r gogledd yn ystod y cyfnod Silwraidd gynt ei herydu yn ystod yr oesoedd Defonaidd. Cafodd symiau enfawr o weddillion eu cludo gan afonydd mawr i’r de ar draws yr hyn a elwir yn dde Cymru erbyn hyn gan ddyddodi’r tywodydd a’r lleidiadau hyn yma ac acw fel yr ‘Hen Dywodfaen Coch’.

Ymgodwyd yr ardal yng nghanol y cyfnod Defonaidd – fe wnaeth erydu ddisdodli dyddodi yn ystod y cyfnod hwn.

Etifeddiaeth y creigiau . . .

Gosodwyd olyniaeth  2-3000’ (600-900m) o drwch o dywodfeini, cerrig llaid a cherrig silt ar yr adeg honno. Mae’r ffurfiannau creigiau hyn, a oedd yn wastad bryd hynny, bellach yn goleddfu tua’r de ac yn ffurfio sgarp sgolpog ysblennydd Bannau Brycheiniog, Fforest Fawr a’r Mynydd Du. 

Creigiau Defonaidd Isaf y Geoparc

Creigiau Defonaidd Isaf y Geoparc

O fewn y Geoparc, mae pum ffurfiant o greigiau Defonaidd i’w cael: ffurfiant trwchus ‘Ffurfiant Llanfocha’ yw’r isaf (ac felly’r hynaf), ac ar ben hwnnw mae ‘Ffurfiant Senni’ gyda ‘Ffurfiant Cerrig Cochion’ yn ei ddilyn. Yn eu tro, mae’r ‘Gwelyau Llwyfandir’ yn ben ar y Cerrig Cochion sy’n ffurfio’r capiau caled ar fynyddoedd megis Faniau Caerfyrddin, Pen y Fan, Fan Hir a Fan Gyhirych. Mae’r ‘Grutiau Llwyd’ i’w cael uwchben y Gwelyau Llwyfandir mewn mannau.

Creigiau Defonaidd Uchaf y Geoparc

Creigiau Defonaidd Uchaf y Geoparc

Mae’r tri ffurfiant cyntaf y perthyn i grŵp y ‘Defonaidd Isaf’ ac mae’r Gwelyau Llwyfandir a Grutiau Llwyd teneuach yn cynrychioli’r ‘Defonaidd Uchaf’. Mae ychydig o anghydffurfedd onglog rhynddynt sy’n adlewyrchu ymgodiant canol Defonaidd yr ardal a’r erydu a ddigwyddodd.

Haenau creigiau Disgrifiad Trwch yn fras
Gwelyau Llwyfandir a Grution Llwyd Tywodfaen caled 0-14m+
Cerrig cochion Tywodfaen, carreg laid a charreg silt 330m
Gwelyau Senni Tywodfaen, carreg laid a charreg silt 310m
Llanfocha Tywodfaen a charreg silt gyda rhai haenlinau tywodfaen Hyd at 850m

Gweld y Llinell amser Defonaidd.

Beth sydd mewn enw?

Daw enw’r cyfnod Defonaidd o’r sir yn Lloegr lle y disgrifiwyd creigiau o’r oes hon am y tro cyntaf.

Darllen pellach

Barclay, W.J., Browne, M.A.E., McMillan, A.A., Pickett, E.A., Stone, P. ac Wilby, P.R. (2005) The Old Red Sandstone of Great Britain, Geological Conservation Review Series, No. 31, Joint Nature Conservation Committee, Peterborough, tt. 393 ISBN 1-86-107-543-X

Ynghyd â rhagarweiniad i’r Hen Dywodfaen Coch ar draws Prydain, mae’r llyfr yn cynnwys erthyglau ar hanner dwsin o leoliadau penodol yn Geoparc y Fforest Fawr ac o’i amgylch: Ceunant Sawdde, Chwarel Pantymaes, Chwarel Heol Senni, Chwarel Craig-y-fro, Chwarel Afon y Waen a Chwarel Abercriban.

Mae’r rhan hon o’r wefan yn parhau i gael ei datblygu  – bydd modd gweld llun o sgarp yr Hen Dywodfaen Coch yma