Caiff y Cyfnod Defonaidd, y cyfeirir ato yn aml fel yr ‘Hen Dywodfaen Coch’, ei rannu yn dair rhan. Roedd yn parhau o 416 i 359 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yn wir, mae ‘ORS’, fel y cyfeirir ato yn aml, yn enw Saesneg anffurfiol ar y creigiau ar gyfer y cyfnod yng Nghymru a llawer o’r DU ond mae hefyd yn cwmpasu rhai o greigiau ieuengaf y cyfnod blaenorol – y Silwraidd – felly nid yw ‘Defonaidd’ a ‘Hen Dywodfaen Coch’ yn cyfateb i’w gilydd yn union.
Y Cyfnod Defonaidd
Roedd y cyfnod hwn yn ymestyn dros 57 miliwn o flynyddoedd. Caiff ei rannu yn dair cyfres/tri epoc sy’n cael eu hisrannu ymhellach yn gyfnodau/oesoedd amrywiol. Dim ond y cyfnodau hynny sydd mewn print trwm sydd wedi’u cynrychioli yng nghreigiau Geoparc y Fforest Fawr.
- Epoc Defonaidd Uchaf (385Ma – 359Ma)
- Cyfnod Famenniaidd (374Ma – 359Ma)
- Cyfnod Frasniaidd (385Ma – 374Ma)
- Epoc Defonaidd Canol (397.5Ma – 385Ma)
- Cyfnod Givetiaidd (392Ma – 385Ma)
- Cyfnod Eifelian (397.5Ma – 392Ma)
- Epoc Defonaidd Isaf (416Ma – 397.5Ma)
- Cyfnod Emsiaidd (407Ma – 397.5Ma)
- Cyfnod Pragiaidd (411Ma – 407Ma)
- Cyfnod Lochkoviaidd (416Ma – 411Ma)
Ma = miliwn o flynyddoedd (yn ôl)


