Y Cyfnod Ordofigaidd

(485 – 443 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Mae’r creigiau hynaf sydd i’w cael yn y Geoparc yn perthyn i’r cyfnod y mae daearegwyr yn cyfeirio ato fel y cyfnod Ordofigaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i’r cyfnod gan y daearegydd Fictoraidd enwog, Charles Lapworth, ar ôl y llwyth Cymreig, yr Ordofigiaid a fu’n byw mewn rhannau mawr o ganolbarth a gogledd Cymru. Mae’r creigiau (a ddangosir fel ardal coch golau ar y map uchod) yn cynnwys cymysgedd cymhleth o gerrig llaid, calchfeini a thywodfeini. Mae’r creigiau Ordofigaidd ieuengaf yn awgrymu bod lefel y môr ym mhedwar ban byd wedi gostwng wrth i oes iâ fawr gydio. Mae daearegwyr yn cydnabod chwe ‘ffurfiant’ o fewn olyniaeth ddiweddar creigiau’r cyfnod Ordofigaidd.

Creigiau Ordofigaidd o Geoparc

Creigiau Ordofigaidd o Geoparc

Haenau creigiau (ffurfiannau) Disgrifiad Trwch yn fras
Cwmcringlyn (uchaf/ieuengaf) Tywodfeini gyda rhai cerrig llaid Hyd at  50m
Ciliau Cerrig llaid siltiog gyda cherrig silt sy’n gyfoethog mewn calch a thywodfeini tenau Hyd at  250m
Yr Allt Cerrig llaid a thywodfeini Hyd at 300m
Cribarth Cerrig llaid tywodlyd a thywodfeini lleidiog Hyd at 400m
Tridwr Cerrig llaid gyda thywodfeini tenau Hyd at  1150m
Cerrig llaid Nantmel (isaf/hynaf) Cerrig llaid gyda thywodfeini tenau Hyd at 700m

Ewch i’r Llinell amser Ordofigaidd.

Mae’r rhan hon o’r wefan yn parhau i gael ei datblygu ar hyn o bryd – bydd modd gweld ffotograff o’r creigiau Ordofigaidd yma