Y cyfnod hynaf i gael ei gynrychioli yng nghreigiau Geoparc y Fforest Fawr; roedd yn para o 488 i 443 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Y Cyfnod Ordofigaidd
Roedd y cyfnod hwn yn ymestyn dros 45 miliwn o flynyddoedd. Caiff ei rannu yn dair cyfres/tri epoc, a chaiff y rhain eu hisrannu ymhellach yn nifer o gyfnodau/oesoedd.
- Epoc Ordofigaidd hwyr/uchaf (461Ma – 443Ma)
- Cyfnod Ashgilliaidd (448Ma – 443Ma)
- Cyfnod Caradog (461Ma – 448Ma)
- Epoc Ordofigaidd Canol (Llanfyrn) (472Ma – 461Ma)
- Cyfnod Llandeiliaidd (463Ma – 461Ma)
- Cyfnod Abereiddi/Llanfyrn (472Ma – 463Ma)
- Epoc Ordofigaidd cynnar/isaf (488Ma – 472Ma)
- Cyfnod Arenig (478Ma – 472Ma)
- Cyfnod Tremadog (488Ma – 478Ma)
Ma = miliwn o flynyddoedd (yn ôl)


