Y Cyfnod Triasig

(252 i 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Ni chredir bod unrhyw greigiau o’r oes hon wedi’u cadw o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Mae’r creigiau Triasig agosaf sydd wedi’u cadw i’w gweld ar hyd Aber Afon Hafren ac ymylon deheuol Maes Glo De Cymru o amgylch Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr.

Roedd rhanbarth mynyddig mawr – sef y Mynyddoedd Farisgaidd – yn gorwedd i’r de; roedd ei bresenoldeb o ganlyniad i wrthdrawiad cynharach o ran cyfandiroedd blaenorol Lawrwsia a Gondwanaland i ffurfio cyfandir enfawr Pangaea. Roedd ardal y Fforest Fawr ei hun fwy na thebyg yn cynnwys bryniau isel o dan wybrennau coch.

Beth sydd mewn enw?

Daw enw’r cyfnod hwn o dair haenen wahanol sy’n nodweddu creigiau o’r oes hon mewn llawer o ogledd Ewrop.