Agorwch unrhyw fap o Geoparc y Fforest Fawr ac mae’r enwau lleol nodedig yn neidio allan. I unrhyw un sydd â dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg, mae’r enwau hyn yn ychwanegu haen arall o fanylder i ddealltwriaeth o’r dirwedd.
Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n llawn termau am nodweddion naturiol – wedi’r cwbl mae gan Gymru lawer o amrywiaeth yn ei chefn gwlad. Er enghraifft, mae llawer o wahanol dermau ar gyfer ‘hill’:
- bryn/fryn (bank)
- tyle (rise/slope)
- moel/foel (‘bald’ rounded hill)
- ban/fan/*bannau (peak/s)
- rhiw (slope)
- mynydd/fynydd mynyddoedd (mountain/hill)
a ‘cliff’ neu ‘rock’:
- tarren/darren (rocky edge)
- craig/graig *creigiau (cliff/s)
- carreg/garreg *cerrig (rock/s)
- maen/faen (stone)
ac yn wir ar gyfer tir gwlyb!
- gwaun/waun (moor)
- mign/fign (bog)
- pant (hollow – often wet!)
Ar wahân i ffurfiau arferol geiriau (wedi’u hamlygu), dangosir treigladau cyffredin ac mae * yn dangos sillafiad ar gyfer defnydd y lluosog.
Gall pob un o’r rhain ddweud rhywbeth am natur y tir cyn ein bod yn ei weld hyd yn oed.
Hefyd mae lliwiau’n digwydd yn aml mewn enwau lleoedd:
- gwyn/gwen *wynion (white)
- du/ddu *duon (black)
- melyn (yellow)
- coch/goch *cochion (red)
- glas/las (blue/green)
Mae’n bosibl eu bod yn cyfeirio at y cerrig islaw neu fel arall at liw’r llystyfiant uwchben.


