Enwau afonydd

Afon Aman mae ‘Aman’ naill ai’n enw personol neu mae’n dod o ‘amanw’ sy’n golygu mochyn/mochyn bach.  Mae’r afon yn rhoi ei henw i Rydaman/Ammanford, Glanaman a Brynaman
Afon Bran aderyn yw ‘brân’. Mae’n bosibl bod hyn yn gyfeiriad at liw’r dŵr – mawnaidd neu efallai o dan gysgod?
Afon Cennen mae ‘cennen’ yn ‘cennin’ neu o bosibl enw personol ‘Cennen’
Afon Clydach mae ‘clydach’ yn golygu cysgodol, cryf, cyflym neu garegog.
Afon Crai gall ‘crai’ olygu garw neu llym.  Mae’r afon yn rhoi ei henw i’r pentref hefyd.
Afon Cynrig nid yw’r ystyr yn hysbys
Afon Gwydderig nid yw’r ystyr yn hysbys
Afon Hepste ‘afon sych’ efallai?
Afon Hydfer ‘nant feiddgar’
Afon Llia nid yw’r ystyr yn hysbys
Afon Mellte afon mellt – efallai oherwydd ei bod yn codi ac yn gostwng yn gyflym neu efallai oherwydd ei chwrs danheddog. Mae’n rhoi ei henw i bentref Ystradfellte.
Afon Nedd Fechan Nid yw ystyr ‘nedd’ yn hysbys ond mae’n debyg i’r Afon Nidd yng ngogledd Swydd Efrog
Afon Pyrddin ‘pyrddin’ yw’r ‘dyn pur’ – cyfeiriad at Dewi Sant
Afon Sawdde nid yw’r ystyr yn hysbys
Afon Senni Mae ‘Senni’ naill ai’n enw personol neu’n golygu ‘sarhaus’ – sydd efallai’n cyfeirio at sŵn ei llif?
Afon Tarell nid yw’r ystyr yn hysbys
Afon Taf   Afon Tawe Mae ‘taf’ yn hen enw gyda tharddiadau tebyg i’r enw ‘tawe’   Mae ‘tawe’ yn hen enw sydd o bosibl yn golygu llonydd a llifo’n ddwfn.
Afon Twrch o effaith ‘trwyno’ ei dyfroedd neu o bosibl ‘tyrchu’ trwy’r ddaear?
Afon Tywi / Fwy na thebyg mae ‘tywi’ yn golygu llonydd a llifo’n ddwfn
Afon Wysg o’r gair Prydeinig ‘isca’ sy’n golygu dŵr (mae’r afonydd Axe, Exe ac Esk â’r un tarddiad) neu mae’n golygu ‘yn gyforiog o bysgod’.
Sychryd ‘sych’
Taf Fawr gweler Afon Taf
Taf Fechan gweler Afon Taf