A

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

Aelod Tywodfaen Mwmfri / Mwmfri Sandstone Member

Haen denau o dywodfaen o fewn cerrig llaid Ffurfiant Cerrig a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Silwraidd.

aeon / eon

Israniad mwyaf amser daearegol. Mae’r aeon diweddaraf, y Ffanerosöig, yn cwmpasu’r 539 o filiynau o flynyddoedd diwethaf yn hanes y Ddaear. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Aeronaidd / Aeronian

Un o unedau stratigraffig y Cyfnod Silwraidd Isaf. Gweler siart amser Silwraidd.

Afalonia / Avalonia

Hen ficro-gyfandir, a wnaeth, wrth i Gefnfor Iapetus gau i fyny, wrthdaro â chyfandir Laurentia yn ystod y cyfnod Silwraidd a’r cyfnod Defonaidd. Yn sgil y gwrthdrawiad crëwyd yr Orogeni Caledonaidd. Roedd Afalonia’n cynnwys yr hyn a fyddai’n ddiweddarach yn datblygu yn Gymru a Lloegr, de Iwerddon a rhannau o’r Tir Newydd a’r Iseldiroedd – rhan o gramen y Ddaear y cyfeirir ati fel Tiriogaeth Gyfansawdd Afalon.

anghydffurfedd / unconformity

Egwyl pan nad oes unrhyw waddodion yn cael eu dyddodi neu gyfnod pan fo creigiau neu waddodion sydd eisoes yn bod yn cael eu herydu. Ymhen amser, dyddodir gwaddodion ar yr arwyneb erydog ond erys ‘bwlch’ yng nghofnod y creigiau.

Yn Geoparc Fforest Fawr ceir enghraifft dda o anghydffurfedd yn nilyniant creigiau’r Hen Dywodfaen Coch, lle mae creigiau Ffurfiant y Cerrig Cochion, a ddyddodwyd yn gynnar yn ystod y Cyfnod Defonaidd, wedi’u gorchuddio gan Ffurfiant Haenau’r Llwyfandir, a ddyddodwyd ar ddiwedd y Cyfnod Defonaidd. Nid oes unrhyw greigiau sy’n perthyn i’r Cyfnod Defonaidd canol rhyngddynt. Naill ai (i) ni chafodd creigiau’r Cyfnod Defonaidd canol eu dyddodi o gwbl, neu (ii) y cawsant eu herydu a’u sgubo ymaith cyn y dyddodwyd Haenau’r Llwyfandir.

anticlin / anticline

Creigiau ar ffurf plyg ar i fyny a all fesur ychydig gentimetrau neu ddegau o gilometrau. Fel yr awgryma’r enw mae Bwa Maen, ger Craig y Dinas, yn enghraifft wych o anticlin sydd i’w gweld yn y Geoparc. Mae enghreifftiau eraill i’w gweld ar y Cribarth. Gweler hefyd synclin.

Arennigaidd / Arenigian

Un o unedau stratigraffig (sy’n cyfateb i epoc) y Cyfnod Silwraidd. Gweler siart amser Silwraidd.

Armorica / Armorica

Hen ficrogyfandir yn cynnwys rhannau o Ffrainc yr oes bresennol a thiroedd cyfagos. Y gwrthdaro rhwng Armorica a Lawrwsia a achosodd yr Orogeni Farisgaidd.

Ashgillaidd / Ashgillian

Epoc diweddaraf y Cyfnod Ordofigaidd. Gweler siart amser Ordofigaidd.