ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
C
c.p. / b.p. (before present)
Talfyriad a ddefnyddir gan ddaearegwyr sy’n golygu ‘cyn y presennol’. Er enghraifft, mae modd cyfeirio at rywbeth a ddigwyddodd 28,000 o flynyddoedd c.p. Y flwyddyn 1950 yw’r ‘presennol’ yn yr achos hwn.
Cainosöig / Caenozoic
Y gorgyfnod daearegol yn dilyn y Mesosöig a wawriodd ar ddechrau’r Cyfnod Palaeogen, 65 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Ystyr y term yw ‘bywyd diweddar’.
calchfaen / limestone
Unrhyw graig sy’n cynnwys yn bennaf naill ai calsiwm carbonad neu fagnesiwm carbonad (calchfaen dolomitig). Mae calchfeini yn amrywiol iawn eu natur.
Calchfaen Carbonifferaidd / Carboniferous Limestone
Y gyfres o galchfeini a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd ac a oedd yn cynnwys nifer o ffurfiannau calchfaen gwahanol, pob un ohonynt o darddiad gwahanol.
Calchfaen Cilyrychen / Cil-yr-ychen Limestone
Ffurfiant trwchus o galchfaen a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd.
Calchfaen Crug / Crug Limestone
Ffurfiant calchfaen a ddyddodwyd yn ystod Epoc Caradog y Cyfnod Ordofigaidd.
Calchfaen Llandyfan / Llandyfan Limestone
Un o galchfeini’r prif Galchfaen Carbonifferaidd.
Calchfaen Psammosteus / Psammosteus Limestone
Calchfaen tenau a thrawiadol rhwng Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan a Ffurfiant St Maughan.
Cambriaidd / Cambrian
Cyfnod daearegol a barhaodd am 54 miliwn o flynydoedd rhwng 542 a 488 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Carbonifferaidd / Carboniferous
Cyfnod daearegol a barhaodd am 60 miliwn o flynyddoedd rhwng 359 a 299 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.
carreg bwdr / rottenstone
Calchfaen hindreuliedig a gâi ei gloddio yn y gorffennol a’i ddefnyddio fel sgraffinydd. Wrth i brosesau naturiol waredu’r calsiwm carbonad yn y calchfaen, gadawyd ar ôl ddeunydd silicaidd nid annhebyg i bwmis. Roedd y dyddodion helaethaf, a gâi eu cloddio yn ystod y 19g, i’r gogledd-orllewin o’r Cribarth.
carreg laid / mudstone
Craig waddod fân-ronynnog iawn. Weithiau defnyddir y term ‘siâl’ yn lle ‘carreg laid’ ond mewn gwirionedd mae ‘siâl’ yn cyfeirio at garreg laid dra haenog sy’n hollti’n rhwydd ar hyd planau gwelyo.
(Ffurfiant) Carreg Laid Bishopston / Bishopston Mudstone (Formation)
Dilyniant trwchus o gerrig llaid rhwng Tywodfaen Twrch isod (Grut Gwaelodol) a Chraig orchuddiol Farewell. Galwyd yn ‘Sialau Canol’ yn flaenorol. Mae’r enw modern yn deillio o’r ardal yn y Gŵyr.
carreg silica / silica rock
Ffurfiant pur iawn o raeanfaen h.y. dros 97% o silica (= SiO2) a arferai gael ei gloddio a’i chwarela i’w ddefnyddio, ar ôl ei lifanu, i wneud brics gwrthsafol. Y ‘garreg silica’ mewn gwirionedd yw’r Grut Gwaelodol (a elwir bellach yn ‘Ffurfiant Tywodfaen Twrch’) sy’n rhan o’r gyfres Grut Melinfaen (gelwir yn ‘Grŵp Marros’ bellach) a osodwyd yn wreiddiol yn y Cyfnod Carbonifferaidd.
carst / karst
Tirwedd yn cynnwys nifer o dirffurfiau sy’n nodweddiadol o galchfaen, megis calchbalmentydd, dolinau (llyncdyllau), ogofâu a tharddellau. Enwyd y math yma o dirwedd ar ôl y deipardal yn yr hen Iwgoslafia.
cefnen eirdreulio / protalus (or pronival) rampart
Crynhoad o gerrig amrywiol eu maint a mân ddyddodion wrth droed clwt neu faes eira lled-barhaol. Unwaith y mae’r eira yn dadmer mae’r dyddodion yn ffurfio cefnen garegog.
clog-gai / boulder clay (till)
Cymysgedd annidoledig o glai a cherrig amrywiol eu maint a gaiff ei waddodi pan fo rhewlif yn dadmer. Fe’i hadwaenir hefyd fel til.
craig waddod / sedimentary rock
Unrhyw graig a ffurfiwyd wrth i waddodion gael eu dyddodi, fesul gronyn, naill ai dan ddŵr neu ar dir sych. Mae creigiau gwaddod yn cynnwys cerrig llaid, cerrig silt, tywodfeini, amryfeini, calchfeini a glo. Yn ogystal â chreigiau gwaddod, ceir dau fath arall o greigiau sylfaenol, sef creigiau igneaidd a chreigiau metamorffig.
Cretasig / Cretaceous
Cyfnod daearegol a barhaodd am 80 miliwn o flynyddoedd rhwng 145 a 65 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cwaternaidd / Quaternary
Y cyfnod daearegol presennol sydd, yn ôl gwahanol ddiffiniadau, wedi parhau am 1.8, 2.4 neu 2.6 o filiynau o flynyddoedd. Gweler siart amser Cwaternaidd.
Cyfandir yr Hen Dywodfaen Coch / Old Red Sandstone Continent
Enw arall ar y cyfandir hwn yw Lawrwsia neu Ewromerica, sef un o gyfandiroedd y cyfnodau Defonaidd a Silwraidd sy’n cynnwys y rhan fwyaf o Ogledd America, yr Ynys Las a gogledd Ewrop yr oes bresennol. Mae enw’r cyfandir yn cyfeirio at welyau cochion trawiadol tywodfeini’r diffeithdiroedd poeth.
cyfnod / period
Rhaniad pwysig o amser daearegol. Mae’r term ‘system’ yn cyfeirio at y creigiau a ffurfiwyd yn ystod cyfnod daearegol. Gweler graddfa amser ddaearegol.
cyfres / series
Y creigiau a ffurfiwyd yn ystod y rhaniad hwnnw o amser daearegol a adwaenir fel epoc. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cyfres Arennig / Arenig Series
Un o unedau stratigraffig (sy’n cyfateb i epoc) y Cyfnod Silwraidd. Gweler siart amser Silwraidd.
Cyfres Ashgill / Ashgill Series
Epoc diweddaraf y Cyfnod Ordofigaidd. Gweler siart amser Ordofigaidd.
Cyfres Brycheiniog / Brecon Series
Enw uned stratigraffig leol y Cyfnod Defonaidd Isaf pan gafodd Ffurfiannau Senni a’r Cerrig Cochion eu dyddodi. Gweler siart amser Defonaidd.
Cyfres Caradog / Caradoc Series
Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd. Gweler siart amser Silwraidd.
Cyfres Ditton / Ditton Series
Enw lleol un o unedau stratigraffig y Defonaidd Isaf. Dyddodwyd creigiau Ffurfiant Llanfocha yn ystod y cyfnod hwn. Gweler siart amser Defonaidd.
Cyfres Downton / Downton Series
Uned stratigraffig gynharaf y Cyfnod Defonaidd. Gweler siart amser Defonaidd.
Cyfres Farlow / Farlow Series
Enw un o unedau stratigraffig lleol y Defonaidd Uchaf. Dyddodwyd Haenau’r Llwyfandir yn ystod y cyfnod hwn. Gweler siart amser Defonaidd.
Cyfres Gweunllwg / Wenlock Series
Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd Isaf. Gweler siart amser Silwraidd.
Cyfres Llandeilo / Llandeilo Series
Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cyfres Llan-fyrn / Llanvirn Series
Un o epocau’r Cyfnod Ordofigaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cyfres Llanymddyfri / Llandovery Series
Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd sy’n cynnwys yr unedau stratigraffig Rhuddanaidd, Aeronaidd a Thelychaidd.
Cyfres Llwydlo / Ludlow Series
Un o epocau’r Cyfnod Silwraidd pan gafodd tywodfeini, cerrig llaid a cherrig silt Ffurfiant Cae’r Mynach, Ffurfiant Hafod Mawr, Ffurfiant Cwm Graig Ddu a ffurfiannau eraill eu dyddodi. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cyfres y Calchfaen Carbonifferaidd / Carboniferous Limestone Series
Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd pan gafodd y prif galchfeini eu dyddodi. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cyfres y Grut Melinfaen / Millstone Grit Series
Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.
cylchfa fawtio-plygu / disturbance
Y term a ddefnyddir yn ne Cymru i ddisgrifio nifer o gylchfâu llinellol, fel cylchfâu ffawtio-plygu Cwm Nedd, y Cribarth a Charreg Cennen, a nodweddir gan ffawtiau a phlygion.
Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen / Carreg Cennen Disturbance
Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion yn ymestyn o Fae Caerfyrddin i ardal Pontsenni. I’r gogledd-ddwyrain o Bontsenni mae’n parhau ar ffurf Cylchfa Ffawtio Church Stretton.
Cylchfa Ffawtio Church Stretton / Church Stretton Fault Zone
Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion yn ymestyn o Church Stretton i ardal Pontsenni. I’r de-orllewin o Bontsenni mae’n parhau ar ffurf Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen.
Cylchfa Ffawtio-plygu’r Cribarth / Cribarth Disturbance
Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion yn ymestyn o ardal Aber-craf, trwy’r Cribarth ac ymlaen tua’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Aberhonddu dan yr enw Ffawt y Cribarth.
Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd / Neath Disturbance
Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion y gellir ei holrhain o Fae Abertawe hyd Henffordd. Mae effeithiau’r gylchfa ffawtio-plygu hon, sy’n gyfrifol am Gwm Nedd, i’w gweld yng nghyffiniau Craig y Dinas.
Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe / Tawe Valley Disturbance
Cylchfa linellol o ffawtiau a phlygion sy’n ymestyn o Abertawe cyn belled ag ardal Aber-craf, lle y mae’n troi’n Gylchfa Ffawtio-plygu’r Cribarth.
Cyn-gambriaidd / Precambrian
Yr amser daearegol hir hwnnw cyn y Cyfnod Cambriaidd, a wawriodd 542 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Credir y daeth y Ddaear i fodolaeth bron 4,540 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac felly mae’r Cyn-Gambriaidd yn cynrychioli bron 90% o hanes daearegol y byd.
Cystradau Glo / Coal Measures
Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.
Cystradau Glo Canol / Middle Coal Measures
Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cystradau Glo Isaf / Lower Coal Measures
Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cystradau Glo Uchaf / Upper Coal Measures
Un o israniadau traddodiadol y Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Cystradau Pennant / Pennant Measures
Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.
CH
Dim termau.


