D DD

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

D

Defensaidd / Devensian

Enw’r rhewlifiant diwethaf yn ystod yr oes iâ ddiwethaf a ddigwyddodd rhwng diwedd y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf, tua 120,000 o flynyddoedd yn ôl, a dechrau’r Holosen, 10,000 o flynyddoedd radio-carbon yn ôl neu 11,500 o flynyddoedd calendr yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Defonaidd / Devonian

Cyfnod daearegol a barhaodd am 60 miliwn o flynyddoedd rhwng 419 a 359 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Defonaidd Isaf / Lower Devonian

Gweler graddfa amser ddaearegol.

Defonaidd Uchaf / Upper Devonian

Gweler graddfa amser ddaearegol.

Dinantaidd / Dinantian

Un o israniadau’r Cyfnod Carbonifferaidd. Gweler siart amser Carbonifferaidd.

Dittonaidd / Dittonian

Enw lleol un o unedau stratigraffig y Defonaidd Isaf. Dyddodwyd creigiau Ffurfiant  Llanfocha yn ystod y cyfnod hwn. Gweler siart amser Defonaidd.

Downtonaidd / Downtonian

Uned stratigraffig gynharaf y Cyfnod Defonaidd. Gweler siart amser Defonaidd.

Dd

Dim termau.