ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
(Y) Garreg Ddiffaith / (The) Farewell Rock
Tywodfaen trwchus yn agos i waelod uned stratigraffig Westffalaidd y cyfnod Carbonifferaidd Uchaf. Mae’r tywodfaen hwn yn amlwg yn nyffrynnoedd afonydd Mellte, Hepste a Nedd Fechan.
(Tir) Gondwana / Gondwana(land)
Hen arch-gyfandir a ddaeth i fodolaeth tua diwedd y cyfnod Cyn-Gambriaidd. Roedd yn cynnwys Affrica, De America, Awstralia, Antarctica ac India yr oes bresennol. Wrth i Gondwana wrthdaro â hen gyfandir Lawrasia yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd, ffurfiwyd arch-gyfandir Pangaea.
Gorgyfnod / Era
Israniad o amser daearegol sy’n llai nag aeon ond yn fwy na chyfnod. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Grut Ffair-fach / Ffairfach Grit
Tywodfaen bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod epoc Llan-fyrn y cyfnod Ordofigaidd.
Grut Gwaeledol / Basal Grit
Tywodfaen bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y cyfnod Carbonifferaidd.
Grut Melinfaen / Millstone Grit
Tywodfeini bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y cyfnod Carbonifferaidd. Mae’r creigiau hyn yn amrywiol iawn eu natur ac mewn mannau maent yn gwartsitau pur iawn (>97% silica [SiO2]).
Grutiau Llwyd / Grey Grits
Tywodfeini bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod y cyfnod Defonaidd Uchaf ac sydd, mewn rhai mannau, yn gorchuddio Haenau’r Llwyfandir.
Grŵp Marl Rhaglan / Raglan Marl Group
Yr hen enw ar Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan.
Grŵp Marros / Marros Group
Enw swyddogol newydd dilyniant Namuraidd y creigiau Grut Melinfaen yn ne Cymru.
Grŵp y Marl Coch / Red Marl Group
Yr hen enw ar Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan.
Gwaddodion ffrwdrewlifol / Glacio-fluvial deposits
Tywod a graean wedi’u dyddodi gan ddŵr yn deillio o rewlifau a llenni iâ yn ystod yr oesoedd iâ.
Gwelyau Cennen / Cennen Beds
Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd ar ddiwedd epoc Llwydlo’r cyfnod Silwraidd.
Gwelyau Coed Wenallt / Coed Wenallt Beds
Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd yn ystod epoc Llwydlo’r cyfnod Silwraidd.
Gwelyau Grammysia / Grammysia Beds
Dilyniant o gerrig llaid yn cynnwys ffosilau, a ddyddodwyd yn ystod epoc Llwydlo’r cyfnod Silwraidd.
Gwelyau Llety / Llety Beds
Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd yn ystod epoc Llwydlo’r cyfnod Silwraidd.
Gwelyau Redhill a Slade / Redhill & Slade Beds
Dilyniant o gerrig llaid a thywodfeini a ddyddodwyd yn ystod epoc Ashgill y cyfnod Ordofigaidd.
Gwelyau Senni / Senni Beds
Yr hen enw ar Ffurfiant Senni.
Gwelyau Tresglen / Tresglen Beds
Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd yn ystod epoc Llwydlo’r cyfnod Silwraidd.
Gwelyau neu Ffurfiant Trichrug / Trichrug Beds or Formation
Dilyniant o dywodfeini a cherrig llaid a ddyddodwyd yn ystod epoc Llwydlo’r cyfnod Silwraidd.
Gwregys Orogenig Caledonaidd / Caledonides
Y creigiau a’r adeileddau daearegol sy’n gysylltiedig â’r Orogeni Caledonaidd.
Gwregys Orogenig Farisgaidd / Variscides
Y creigiau a’r adeileddau sy’n gysylltiedig â’r Orogeni Farisgaidd.


