ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
Haenau’r Llwyfandir / Plateau Beds
Dilyniant o dywodfeini a thywodfeini amryfaenog gwydn a ddyddodwyd yn ystod y cyfnod Defonaidd Uchaf. Maent yn ffurfio copaon nifer o Fannau uchaf Geoparc Fforest Fawr.
Haenlin forol / Marine band
Haen o waddod, yn enwedig yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd, yn cynnwys nifer fawr o ffosilau o greaduriaid môr. Mae’r fath haenlinau yn cynrychioli adegau penodol yn ystod amser daearegol ac felly gellir eu defnyddio i gydberthyn creigiau mewn un man i greigiau mewn mannau eraill. Gweler hefyd braciopodau.
Hen Dywodfaen Coch / Old Red Sandstone
Yr enw traddodiadol ar ddilyniant o dywodfeini a cherrig llaid sy’n perthyn i’r cyfnod Defonaidd a rhan uchaf y cyfnod Silwraidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.
Hirnantaidd / Hirnantian
Uned stratigraffig ddiweddaraf y cyfnod Ordofigaidd. Gweler siart amser Ordofigaidd.
Holosen / Holocene
Yr epoc presennol a ddechreuodd tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl. Gweler siart amser y Cwaternaidd.


